Y gwair gwyrddaf… cwblhau’r gwaith ar gae godidog newydd Parc y Scarlets

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r gwaith wedi ei gwblhau ar gae newydd hynod drawiadol Parc y Scarlets.

Mae’r Scarlets wedi buddsoddi dros hanner miliwn o bunnoedd ar faes chwarae hybrid ar gyfer tymor newydd y Guinness PRO14.

Yn ystod y chwe wythnos diwethaf, mae contractwyr wedi bod yn gweithio’n ddyfal i dynnu’r gwreiddiau ffibr elastig blaenorol, eu cyfnewid am 2,500 tunnell o gymysgedd tywod a phridd, cyn defnyddio peiriannau gyda thechnoleg o’r radd flaenaf i blethu ffibrau artiffisial gyda’r glaswellt traddodiadol.

Erbyn hyn, gwelir golygfa godidog o wyrddni ar gyfer dechrau’r tymor newydd.

“Rydym wrth ein bodd â’r cynnyrch terfynol,” dywedodd prif dirmon y Scarlets, Luke Jenkins.

“Mae’r pwytho’n golygu fod y cae lawer mwy sefydlog ar hyd y flwyddyn, a bydd yn arwyneb chwarae llawer cyflymach hyd yn oed mewn amodau gwlyb, bydd ansawdd yr arwyneb dan droed gymaint yn well.

“Mae gan y stadiymau gorau yn y byd, fel Stadiwm y Principality a Wembley y system bwytho hon a gyda’r 3G o gwmpas, mae gennym un o’r arwynebau gorau yn y byd.”

Gêm agoriadol ar yr arwyneb newydd bydd yr ornest rhwng Scarlets A a’r Gweilch yn y Cwpan Celtaidd ddydd Sadwrn, Medi’r 7fed.