Y Scarlets i ddechrau ymgyrch URC yng Nghaeredin

Rob Lloyd Newyddion

Y Scarlets i ddechrau ymgyrch URC yng Nghaeredin

Bydd y Scarlets yn agor ei ymgyrch ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig yn stadiwm newydd Edinburgh Rugby ym Murrayfield ar ddydd Sadwrn, Medi 25.

Cafodd yr amserlen ei gyhoeddi heddiw ar gyfer y gystadleuaeth 16 tîm, sydd am y tro cyntaf, yn cynnwys pedwar o’r timau gorau yn Ne Affrica – Vodacom Bulls, DHL Stormers, Cell C Sharks a’r Emirates Lions.

Tîm y Lions o Johannesburg fydd y cyntaf i chwarae ym Mharc y Scarlets ym Mhencampwriaeth yr URC ar ddydd Gwener, Hydref 1, gyda Munster yn cyrraedd Gorllewin Cymru yr wythnos ar ôl.

Bydd y Scarlets yn chwarae y pencampwyr Leinster yn yr RDS yn Nulyn ar Ddydd Sadwrn, Hydref 16, gan orffen y bloc agoriadol o gemau wrth wynebu pencampwyr Cwpan yr Enfys Benetton yn Llanelli ar Dydd Gwener, Hydref 22.

Bydd seibiant er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng URC a gemau rhyngwladol yr Hydref, wedyn bydd y Scarlets yn teithio i Dde Affrica i chwarae’r Sharks (Tach 26) a’r Bulls (Rhag 3) yn rowndiau chwech a saith.

Yn dilyn y ddau rownd agoriadol o Gwpan Pencampwyr Heineken, bydd y Scarlets yn teithio i Gaerdydd i wynebu Caerdydd ar ddiwrnod San Steffan cyn cynnal y Gweilch ym Mharc y Scarlets yn y Flwyddyn Newydd.

Mae’r amserlen ar gyfer rowndiau 1-10 wedi’u cadarnhau gyda phob un ond am un gêm yn cael eu ddarlledu ar sianeli ‘free-to-view’ sef BBC Wales a S4C.

Bydd trefnwyr y URC yn cwrdd eto o fewn chwe wythnos i gadarnhau rowndiau 11 i 18, sydd yn cynnwys tri darbi Cymreig ac yn gorffen gyda’r Scarlets yn chwarae’r Stormers yn Llanelli ar benwythnos Mai 21.

Dywedodd Martin Anayi, United Rugby Championship CEO,: “We believe these fixtures will ensure that the URC could deliver on its promise of a new era for our league where the very best from South Africa go head-to-head with our Celtic and Italian teams.

“As we carefully manoeuvre out of the pandemic, the URC will take its place as one of the leading leagues in global rugby and this fixture list should ignite our competition and take it to the next level.

“This schedule is the most complex we have ever produced and the efforts of every one of our stakeholders to help us piece it together in the current climate have been monumental. We now have a format that will heighten competition, showcase our clubs, elevate our athletes and bring great excitement to fans and TV audiences right across our territories and beyond.”

Amserlen Pencampwriaeth Rygbi Unedig Scarlets 

RD 1 

Sad Medi 25: Caeredin (oddi cartref), 5.15yh (Premier Sports/S4C)

RD 2

Gwe Hyd 1:  Emirates Lions (cartref), 7.35yh  (BBC Wales/Premier)

RD 3

Sul Hyd 10: Munster (cartref), 2yp  (S4C/Premier)

RD 4

Sad Hyd 16: Leinster (oddi cartref),  5.15yh (S4C/Premier)

RD 5

Gwe Hyd 22: Benetton (cartref), 7.35yh (BBC Wales/Premier)

RD 6

Sad Tach 26: Cell C Sharks (oddi cartref), 3.30yp (S4C/Premier)

RD 7

Gwe Rhag 3: Vodacom Bulls (oddi cartref), 5.35yh (BBC Wales/Premier)

RD 8

Sul Rhag 26: Caerdydd (oddi cartref) 3yp (BBC W/Premier)

RD 9

Sad Ion 1: Gweilch (cartref) 5.15yp (S4C/Premier)

RD 10

Sad Ion 8: Dreigiau (cartref) 7.35pm (Premier)

RD 11

Penwythnos Ion 29: Ulster (oddi cartref) TBC (Premier)

RD 12

Penwythnos o Chwe 19: Connacht (cartref) TBC (BBCW/S4C/Premier)

RD 13

Penwythnos o Fawrth 5: Glasgow (cartref) TBC (BBCW/S4C/Premier)

RD 14

Penwythnos o Fawrth 26: Zebre (oddi cartref) TBC (BBCW/S4C/Premier)

RD 15

Penwythnos o Ebr 2: Caerdydd (cartref) TBC (BBCW/S4C/Premier)

RD 16

Penwythnos o Ebr 23: Dreigiau (oddi cartref) TBC (BBCW/S4C/Premier)

RD17

Penwythnos of Ebr 30: Gweilch (oddi cartref) TBC (BBCW/S4C/Premier)

RD 18

Penwythnos o Fai 21: DHL Stormers (cartref) TBC (BBCW/S4C/Premier)