Cais hwyr gan Angus O’Brien wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth mewn gêm Guinness PRO14 agos iawn yn erbyn y Gweilch.
Y Gweilch, a oedd yn chwarae fel y tîm ‘cartref’ swyddogol ym Mharc y Scarlets oedd ar y blaen am fwyafrif o’r noson.
Ond gyda 71 munud ar y cloc, dadlwytho gwych gan Blade Thomson wnaeth creu’r cyfle i O’Brien dorri trwy i sgori gais angenrheidiol i’r Scarlets.
Chwaraewr y gêm Dan Jones ychwanegodd y pwyntiau gan drosi i ddodi’r Scarlets ar y blaen i alluogi’r Scarlets i orffen y gêm yn fuddugol ac i aros yn y frwydr yng Nghynhadledd B.
Nad oedd O’Brien wedi’i enwi yn 23 gwreiddiol ar gyfer y gêm hon, ond cafodd ei alw i mewn fel eilydd ar gyfer Johnny McNicholl.
Er gwaethaf y tywydd, manteisiodd y Scarlets o’r pwysau cynnar gan y Gweilch, ond er iddyn nhw weithio’n galed wrth linell y Gweilch nad oedden yn gallu ennill pwyntiau.
Yn hytrach, y Gweilch oedd cyntaf ar y sgorfwrdd ar ôl 14 munud o chwarae.
Y chwarter cyntaf yn weddol ddigyffro gyda’r ddau ochr yn methu codi momentwm.
Ond y trobwynt daeth gan y mewnwr Reuben Morgan-Williams, a wnaeth pas ffug a chlirio o 40 metr gan ymestyn sgôr y Gweilch ar 22 munud, ond y Scarlets ymatebodd yn gyflym gyda Jones yn glanio cic gosb yn syth o’r ailgychwyn.
Cic gros-cae gan Steff Hughes oedd ond yn fyr o ddwylo’r asgellwr Steff Evans gyda’r llinell cais o’i flaen.
Sgrym bwerus ar guriad hanner amser arweiniodd at gic cosb, ond ymdrech O’Brien yn ymestyn wrth ochr y pyst gyda’r Gweilch ar y blaen ar yr hanner.
Myler yn ymestyn y sgôr yn gynnar yn yr ail hanner, ond Jones yn cadw’r Scarlets yn y gystadleuaeth gyda’r cicio o’i ddwylo ac oddi’r llawr.
Dwy gic gosb arall gan Dan ag un gan Myler daeth a’r sgôr i 14-9 wrth ddechrau’r 10 munud olaf o’r gêm.
Wedyn tarodd y Scarlets yn ôl
Gyda Thomson yn creu effaith mawr oddi’r fainc, pigodd y rheng-olwr y bêl allan o’r awyr i bweru’r Scarlets ymlaen. A Thomson unwaith eto yn ymddangos gyda phas wych i O’Brien a wnaeth croesi’r llinell.
Gydag ond dau o bwyntiau rhwng y ddau dîm, dangosodd y Scarlets eu cryfder gan wrthod unrhyw gyfle i’r Gweilch ceisio dwyn y fuddugoliaeth nôl.
Gweilch – cais: R. Morgan-Williams. Cic gosb: S. Myler
Scarlets – cais: A. O’Brien. Trosiad: D. Jones. Cic Gosb: Jones (3)