Ymateb arbennig i wersyll hanner tymor Aberystwyth

Kieran LewisNewyddion Cymuned

Does dim dwywaith bod y rhieni yn ein plith yn hapus iawn gweld y plant yn dychwelyd i’r ysgol heddiw ar ôl y gwyliau hanner tymor.

Fel rhan o’n strategaeth Tri Sir Tair Blynedd, sy’n canolbwyntio ar Ceredigion eleni, fe gynhaliwyd gwersyll hanner tymor yn Aberystwyth.

Ceredigion sy’n cael y sylw eleni, a’r sir sydd wedi ysbrydoli lliw a dyluniad y crys oddi cartref.

Croesawyd dros 50 o blant i’r gwersyll, a gynhaliwyd ar y cyd gyda’n noddwr Prifysgol Aberystwyth.

Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd cafodd cenhedlaeth nesaf Ceredigion gyfle i wneud ffrindiau newydd ac fe fyddan nhw’n cael ymuno â ni ar gyfer gêm ym Mharc y Scarlets.