Ymateb Glenn Delaney i gêm Leinster

Rob LloydNewyddion

Siaradodd Glenn Delaney â’r wasg yn dilyn Leinster yn trechu’r Scarlets o 52-23 ym Mharc y Scarlets.

Pa mor siomedig ydy hi i golli adref? 

GD: “Mae’n siomedig iawn. Nad ydyn wedi colli i gymaint o bwyntiau’r tymor yma. Cafodd ein hamddiffyn ei dorri lawr gan Leinster. Ar un adeg y sgôr oedd 17-13 ac roedd disgwyl ar y pryd i hynny agor lan i ni, ond roedd gormod o gamgymeriadau wedi cael eu gwneud, a chicio allan i’r gwagle a’u gwahodd i mewn i’n tir wnaeth sicrhau’r cyfle iddyn nhw sgori. Mae eu steil o chwarae yn anhygoel pan maent yn agos i’r llinell gais.

“Mae angen i ni asesu sut cafodd Leinster y cyfleoedd yna. Yn sicr fe roddodd y tîm cartref llawer o bwysau ar ein hunain yn ystod yr hanner cyntaf, ac fe gywiron ni hynny yn yr ail hanner ond erbyn hynny roedd hi’n rhy hwyr. Y realiti yw, mae rhoi bant 50 o bwyntiau mewn gêm gartref ddim yn ddigon da.”

Pa mor ddylanwadol ydy gallu Leinster i ddatblygu chwaraewyr ifanc? 

GD: “Mae hynny yn rhywbeth rydym yn ceisio gwneud yma. Roedd nifer o chwaraewyr ifanc yn chwarae heno. Kemsley Mathias, Morgan Jones, Sam Costelow, Carwyn Tuipulotu, Ryan Conbeer. Mae gennym nifer o fois ifanc yn datblygu yn yr academi hefyd ac mae angen y cyfleoedd iawn arnyn nhw i gael chwarae ar y lefel yma i wella eu datblygiad. Byddynt yn dysgu gwers o hyn, ac yn datblygu trwy’r profiad.”

Mae’n debygol fydd yna gystadleuaeth frwd am le yng Nghwpan y Pencampwyr

GD: “Fydd pob tîm yn chwilio am bwyntiau a fyddwn ni yn un ohonyn nhw, ac yn allweddol i ni, fydd rhaid gweithio’n galed i baratoi ar gyfer wynebu Benetton ym mhen tair wythnos.”