Ymgyrch Guinness PRO14 i orffen ym mis Mawrth cyn tarddiad Cwpan Enfys

Rob LloydNewyddion

Bydd yr ymgyrch Guinness PRO14 bresennol yn gorffen ym mis Mawrth i alluogi’r pedwar “super team” o Dde Affrica, ac ein clybiau gwreiddiol i orffen y tymor mewn cystadleuaeth o 16 o dimau fel rhan o’r ‘Cwpan Enfys’ cyn taith y Llewod.

Ar ôl trafod gyda rhanddeiliad allweddol y PRO14, penderfynon nhw mai’r trywydd orau fyddai i orffen yr ymgyrch presennol ac i ddechrau’r ‘Cwpan Enfys’ er mwyn cyflwyno’r pedwar “super team” newydd o Dde Affrica: the Vodacom Bulls; Emirates Lions; Cell C Sharks a DHL Stormers.

Roedd y penderfyniad yma yn galluogi i’r timoedd Ewropeaidd i ennill lle i gystadlu ym mhencampwriaethau EPCR yn 2021/22 mewn ffordd deg.

Bydd Cwpan Enfys PRO14 yn rhoi’r cyfle i gefnogwyr weld chwaraewyr rhyngwladol o’r gogledd a’r de cystadlu am le yn y tîm prawf.

Cewch wylio’r holl gemau o’r pencampwriaeth hyd at ei ddiwedd ym mis Mehefin gyda’n partneriaid darlledu Premier Sports, eir Sport, S4C, TG4, DAZN and Super Sport.

Trefn y gystadleuaeth newydd:

  • Bydd ymgyrch Guinness PRO14 2020/21 yn gorffen wedi’r 16 rownd, gyda’r enillwyr yn wynebu ei gilydd mewn rownd derfynol ar ddiwedd mis Mawrth.
  • I fod yn gymwys i gystadlu ym mhencampwriaethau EPCR yn 2021/22, bydd y timoedd yn cael ei benderfynu yn ôl safleoedd ar ôl rownd 16
  • Ar Ebrill 17, 2021, bydd Cwpan Enfys Guinness PRO14 yn cychwyn ac yn croesawu: the Vodacom Bulls, Emirates Lions, Cell C Sharks, DHL Stormers a’r tîm enillodd Cwpan y Byd y Springboks
  • Bydd Cwpan Enfys Guinness PRO14 yn cynnwys grwpiau (dau grwp o wyth dim) a’r rownd derfynol rhwng y ddau enillwyr o’r grwpiau.

Pennod olaf y Guinness PRO14

Bydd rowndiau 12 i 16 yn dechrau ar yr 20fed o Chwefror ac yn gorffen ar yr 20fed o Fawrth. Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yng nghartref y tîm yn y safle uchaf. Mae’r rhestr gryno yma o gemau yn anelu i sicrhau bydd pob gem gartref ag oddi-cartref yn y gynhadledd wedi’i chwblhau. Bydd eglurhad bellach unwaith fydd y gemau wedi ei chadarnhau.

Y dyddiadau sydd wedi’u hamserlennu ar gyfer diweddglo ymgyrch Guinness PRO14 2020-21: R12: Chwefror 20; R13: Chwefror 27; R14: Mawrth 6; R15: Mawrth 13; R16: Mawrth 20; R Derfynol: Mawrth 27

Unwaith fydd Rownd 16 wedi’i gwblhau, fydd y timau ar frig pob cynhadledd yn gymwys ar gyfer Cwpan Pencampwyr Heineken 2021-22. Mae’r gofynion am y gemau ail gyfle dan adolygiad.

Cwpan Enfys Guinness PRO14 – Ffugio Cystadlu Newydd

Gyda De Affrica wrthi’n paratoi ar gyfer taith y Llewod, y cynta’ ers 2009, fydd Pencampwyr y Byd yn gweld eu ‘Super teams’ – The Bulls, Lions, Sharks and Stormers wynebu’r gorau sydd gan Iwerddon, yr Alban, yr Eidal, a Chymru eu gynnig.

Bydd y chwaraewyr sydd yn gobeithio cael eu dewis i gynrychioli’r Llewod yn wynebu sialens wrth wynebu chwaraewyr megis Siya Kolisi, Pieter Steph du Toit (y ddau gyda DHL Stormers), Duane Vermeulen (Vodacom Bulls), Elton Jantijes (Emirates Lions) a chyn- prif sgoriwr y PRO15 Makazole Mapimpi (Cell C Sharks).

Mae Cwpan Enfys Guinness PRO14 yn cychwyn ar Ebrill 17 gyda dau grwp o wyth dim o Iwerddon, De Affrica, Cymru, Yr Eidal, a’r Alban. Mae pob tim yn chwarae un gem yn erbyn ei gwrthwynebwyr ym mhob grwp, a’r enillwyr o bob grwp yn gwynebu ei gilydd mewn rownd derfynol ar 19eg o Fehefin.

Ar draws 57 gêm, bydd Cwpan Enfys Guinness PRO14 yn arddangos yr enwau mwyaf yn rygbi De Affrig a fydd yn erbyn enwau mwyaf sydd gan y Llewod i gynnig – a pob un ohonynt yn awyddus i greu effaith mewn taith fythgofiadwy.

Martin Anayi, PSG, Rygbi PRO14: “ mewn cyfnod lle mae chwaraeon wedi wynebu ei her fwyaf, mae gennym newyddion addawol am ddatrysiad arloesol i gyfuno â rygbi De Affrica cyn taith y Llewod.

“Roedd hi’n bwysig i ni weithio gyda phawb er mwyn i’r 12 tîm cael cynllun clir tuag at gymhwyster Ewropeaidd. Wrth i daith y Llewod agosáu, mae’n anodd meddwl am un rhywbeth gwell nag i wylio’r rhanbarthau Celtaidd cystadlu yn erbyn Pencampwyr y Byd y Springboks yng Nghwpan Enfys Guinness PRO14.”

Jurie Roux, PSG Rygbi De Affrica: “Mae cynnwys ‘Super teams’ De Affrica yng Nghwpan yr Enfys yn benderfyniad unwaith mewn cenhedlaeth. Yn dilyn flwyddyn ansicr iawn yn 2020, mae’r gobaith fydd cystadlaethau rhyngwladol yn dechrau nôl yn rhywbeth fydd pawb yn edrych ymlaen at yn fawr.”