Ymunwch â Chlwb Cochyn am y tymor newydd!

Rob LloydNewyddion

Mae Clwb Cochyn nôl!

Rydym yn ail-lansio ein clwb ieuenctid y Scarlets ar gyfer ein cefnogwyr ifanc hyd at 16 oed.

Ymunwch â Chlwb Cochyn a derbyniwch anrhegion unigryw, cerdyn aelodaeth bersonol a lanyard, gwahoddiad i barti Nadolig Clwb Cochyn, cyfleoedd i gwrdda chwaraewyr, cerdyn penblwydd wedi’i lofnodi, cyfle i fod yn masgot a gostyngiad ar wersylloedd rygbi’r Scarlets.

Mae’n £15 am y tymor, ac i blant o aelodau tymor mae’n £10 am y tymor.

Cwblhewch ffurflen gais o’r Swyddfa Docynnau a thalwch yr aelodaeth i ymuno â ni.