Teithiau Addysgiadol

Image
Image

Mae’r Scarlets yn angerddol am addysg ac ry’n ni wedi datblygu pecynnau unigryw ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae teithiau’n cael eu trefnu o flaen llaw ac mae yna aelod o’r tîm cymunedol ar gael i’ch cynorthwyo chi wrth drefnu.

Mae’r teithiau addysgiadol yn addo diwrnod llawn dyhead i’ch disgyblion, gan gynnig awyrgylch hwylus a chyffrous tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Ry’n ni’n gallu cynnal diwrnodau i dros 100 o ddisgyblion ar y tro. Mae’r teithiau addysgiadol yn cynnwys:

  • Taith o’r stadiwm gan ymweld â ardaloedd rygbi a lletygarwch
  • Sesiwn holi ac ateb gyda un o sêr y Scarlets

Dim ond £3 y plentyn a mynediad am ddim i unrhyw athrawon, cysylltwch nawr i archebu eich lle drwy ffonio'r derbynfa ar 01554 783900 neu drwy e-bost [email protected]

 Fe ddaeth Ysgol Dewi Sant i’r Stadiwm ar gyfer diwrnod ‘Pencampwyr’. Cafodd y plant gyfle i gyfarfod chwaraewyr rhyngwladol gan dreilio’r diwrnod yn mwynhau gweithgareddau amrywiol. Dywedodd Miss Owen, Dirprwy Brifathrawes yr ysgol; "Roedd y daith yn arbennig gyda aelod o staff y Scarlets yn arwain y sesiwn. Roedd y gweithgareddau yn berthnasol iawn ac roedd y cynllunio o flaen llaw yn drylwyr ac yn fanwl. Diolch yn fawr iawn, fe fyddwn ni bendant yn dychwelyd yn y dyfodol."

Daeth plant Blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Ystalyfera i Barc y Scarlets dros gyfnod o dair wythnos i ddysgu am y stadiwm. Cafodd pob dosbarth daith manwl o’r stadiwm, o’r ystafelloedd lletygarwch a’r blychau ar y llawr uchaf i’r ystafelloedd newid yng nghrombil y stadiwm.