Clybiau Ieuenctid

Image

YMWELIADAU CHLYBIAU IAU

SESIYNAU HYFFORDDI

Sêr y Scarlets yn eich clwb!

Mae ein Hadran Gymunedol yn cynnig cyfle i bob un o'n clybiau yn y gymuned drefnu i un o chwaraewyr y Scarlets ymweld â nhw. Ry’n ni’n angerddol am y gwahaniaeth y mae rygbi yn gallu ei wneyd ar fywydau plant a theuluoedd y nein cymunedau.

Mae’r sesiynau’n cynnig dwy awr llawn o hyfforddiant i’ch tîm ieuenctid ac mae’n annog plant i gydweithio, datblygu a gwella eu sgiliau rygbi. Fe fydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Rhyngweithio gyda phlant 7 i 11
  • Cyfle i wella sgiliau rygbi
  • Sesiwn 20 munud gyda phob grwp oed
  • Llofnodion a lluniau gyda’r chwaraewyr
  • Cyfle i weithio gyda gwirfoddolwyr y clwb

Fel rhanbarth ry’n ni eisiau bod yn rhan o ddatblygiad ieuenctid a’r llwybr sy’n arwain at rygbi proffesiynol trwy gynnig ymweliad â’r clybiau a fydd yn annog potensial chwaraewyr y dyfodol.

I archebu’ch hymweliad chi cysylltwch trwy ebostio [email protected]