Yr Eirth yn fuddugol ym Mharc y Scarlets

CANLYNIADAU
Scarlets V Bristol Bears
22 ION 2022 KO 17:00 | Parc y Scarlets
21
 
52
Heineken Champions Cup
Att.: 7500
CERDYN SGORIO
Scarlets Bristol Bears
BUDDUGOLIAETHAU
35
30
COLLEDION
30
35
CYFARTAL
3
3

Perfformiad pwerus yn y cwarter olaf gan Fryste i orffen ar 52-21 yng ngêm Cwpan Pencampwyr Heineken ym Mharc y Scarlets.

Cystadleuaeth egnïol gyda'r sgôr yn hafal 21-21 ar 60 munud, yn darparu digon o adloniant i'r cefnogwyr a oedd nôl yn y stadiwm am y tro cyntaf ers Hydref.

Yr Eirth yn dangos eu cryfder yn ystod y cwarter olaf, gyda'u steil didostur i orffen yn fuddugol.

Hyd at y 60 munud roedd digon o agweddau positif gan tîm Dwayne Peel gyda'r asgellwr Ryan Conbeer ar dân, Johnny McNicholl yn fygythiad parhaus, Sione Kalamafoni yn rhoi ymdrech enfawr yn cario a'r wythwr Carwyn Tuipulotu yn rhoi'r gwaith caled i mewn ar ei ymddangosiad llawn Ewropeaidd cyntaf.

Ond gyda Bryste oedd y gair olaf gan wthio Scarlets at allanfa'r gystadleuaeth.

Braf oedd clywed Sosban Fach yn atseinio, a'r Scarlets yn dechrau'n gryf gan ddangos digon o bwer ac yn cael eu gwobrwyo ar y chweched munud gyda chic gosb gan Rhys Patchell yn dilyn ymdrech da gan Morgan Jones.

Er hyn, cafodd bois y Gorllewin Gwyllt eu llosgi wrth i'r Eirth croesi, cais wedi'i ysbrydoli gan y Cymro Ioan Lloyd. Yn chwarae fel canolwr, dawnsiodd Lloyd trwy'r amddiffyn gan chyd-weithio gyda'i bartner Semi Radradra am gais cyntaf yr ymwelwyr. Wedyn y blaenasgellwr Chris Vui yn croesi ar ôl pas tu ôl i'w gefn. Maswr Cymru Callum Sheedy ciciodd y ddwy i ddodi'r Eirth yn y blaen 14-3 ar ôl 16 munud.

Ac fe ymatebodd y Scarlets.

Dane Blacker yn taro o'r sgrym tu fewn i hanner Bryste a Liam Williams yn symud y chwarae i fyny'r cae lan i linell yr ymwelwyr. Fe lwyddodd y Scarlets i barhau i wthio ac Elias croesodd yn y diwedd. Patchell oedd ar darged gyda'r trosiad.

Gyda'r ddau ochr yn dangos digon o engi, fe orffennodd yr hanner cyntaf gyda llawer o gyffro ymysg y dorf.

Fe lwyddodd y Scarlets i ddwyn y meddiant ar ôl ailddechrau'r gêm a Ryan Conbeer aeth ar rhediad hir i fyny'r cae gan arwain at gic gosb arall gan Patchell.

Ar ôl rhoi fwy o bwysau ar yr ymwelwyr tuag at ddiwedd yr hanner, yr Eirth aeth ymlaen i amddiffyn eu sgôr a cadw'r pwynt o feddiant ar yr egwyl.

McNicholl yn torri trwy wnaeth ennill cic gosb i ddodi'r tîm cartref ar y blaen o 16-14, ond ar ôl 56 munud y dyfarnwr Ffrengig Mathieu Raynal gwobrwyodd cais cosb i Fryste a rhoi cerdyn melyn i Elias ar ôl i'r dyfarnwr teledu barnu bod y bachwr wedi rhwystro Bryste rhag sgori.

Er hyn, fe barhawyd y 14 Scarlet i gadw'r bel yn lydan a chyfuniad arbennig o McNicholl a Conbeer llwyddodd i wthio'r maswr dros y llinell gais ar gornel y cae.

Dyna oedd uchafbwynt y Scarlets wrth i fainc Bryste creu effaith mawr ar y cae.

Harry Thacker claimed Bristol’s bonus-point score and with the Scarlets defence tiring, further tries were added by Siva Naulago, Piers O'Connor, Callum Sheedy and the outstanding Radrada.

CANLYNIADAU
Scarlets V Bristol Bears
22 ION 2022 KO 17:00 | Parc y Scarlets
21
 
52
Heineken Champions Cup
Att.: 7500

CERDYN SGORIO
Scarlets   Bristol Bears
CAIS
Rhys Patchell
TRO Callum Sheedy(5)
Rhys Patchell(3)
GOSB -
- ADLAM -
Ryan Elias
YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

BEN WRTH BEN

ScarletsBristol Bears
Johnny McNicholl
Ryan Elias
CAIS Callum Sheedy
Harry Thacker
Semi Radradra(2)
Piers O'Conor
Ioan Lloyd
Ratu Naulago
Rhys Patchell
TRO Callum Sheedy(5)
Rhys Patchell(3)
GOSB -
- ADLAM -
Ryan Elias
YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais