Sale yn dominyddu i ennill eu safle yn rownd yr wyth olaf

CANLYNIADAU
Scarlets V Sale Sharks
04 EBR 2021 KO 17:00 | Parc y Scarlets
14
 
57
Heineken Champions Cup
Att.: 0
CERDYN SGORIO
Scarlets Sale Sharks
BUDDUGOLIAETHAU
10
9
COLLEDION
9
10
CYFARTAL
2
2

Llwyddodd Sale i roi perfformiad werth eu safle yn rownd yr wyth olaf o Gwpan Pencampwyr Heineken.

Croesodd y Siarcod am chwe chais i orffen ar fuddugoliaeth o 57-14.

Roedd y gystadleuaeth yn unochrog trwy gydol y gêm gan wneud gormod o gamgymeriadau yn erbyn tîm Sale, a wnaeth ennill y gystadleuaeth yn gorfforol ac o ran gyswllt.

Roedd Sale ar y droed flaen o’r cychwyn, gyda’r maswr AJ McGinty ar darged gyda chic gosb ar yr ail funud o’r gêm yn dilyn cosb i’r Scarlets o’r sgrym.

Y bachwr Akker van der Merwe manteisiodd ar wall yn y llinell gan sgori gais cyntaf Sale ac fe barhawyd i gynyddu eu sgôr wrth i McGinty llwyddo cic gosb arall o 40 medr.

Liam Williams daclodd i gadw Sale rhag y llinell am eu hail gais, ond roedd yr ymwelwyr yn dathlu ar 30 munud pan lwyddodd seren y gêm van der Merwe groesi’r llinell.

Gadawodd y chwaraewr rhyngwladol Johnny Williams y cae yn dilyn anaf i’w ysgwydd ar 34 munud, ac wedyn McGinty ychwanegodd tri phwynt arall wrth i’r Scarlets cael eu cosbi wrth y sgrym eto.

Cafodd y Scarlets cyfle i roi pwyntiau ar y bwrdd cyn yr egwyl, ond y capten Ken Owens cafodd ei ddal i fyny dros y llinell.

Roedd angen dechreuad cryf i’r ail hanner, ond y Scarlets wnaeth rhoi cyfle arall i’r ymwelwyr wrth i McGinty dorri trwy gyda phas rhydd a chroesi am drydydd cais Sale gyda’r trosiad yn cymryd y sgôr i 30-0.

Fe lwyddodd y Scarlets i ennill cais pan groesodd Owens o amrediad byr o’r llinell, ond tarodd Sale yn ôl yn gyflym gyda’r asgellwr Marlon Yarde yn glir ar y chwith am gais rhif pedwar.

Daeth nifer o eilyddion y Scarlets ymlaen i’r cae i geisio newid momentwm y gêm, ond roedd Sale yn barod i barhau’r tempo yn enwedig trwy eu hamddiffyn.

Mwy o bwysau o’r ymwelwyr wnaeth achosi i’r chwaraewr ail-reng Beaumont groesi am y chweched gais a McGinty yn troi’r gyllell gyda dwy gic gosb arall.

Dangosodd Jac Morgan cryfder da trwy orfodi ei hun dros y llinell gyda rhyw bum munud i sbario am gais i gysuro’r golled, ond roedd y gair olaf gyda’r ymwelwyr trwy’r eilydd Raphael Quirke.

CANLYNIADAU
Scarlets V Sale Sharks
04 EBR 2021 KO 17:00 | Parc y Scarlets
14
 
57
Heineken Champions Cup
Att.: 0

CERDYN SGORIO
Scarlets   Sale Sharks
CAIS
Leigh Halfpenny(2)
TRO AJ MacGinty(6)
- GOSB AJ MacGinty(5)
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

BEN WRTH BEN

ScarletsSale Sharks
Ken Owens
Jac Morgan
CAIS Marland Yarde
Josh Beaumont
Armand van der Merwe(2)
AJ MacGinty
Raffi Quirke
Leigh Halfpenny(2)
TRO AJ MacGinty(6)
- GOSB AJ MacGinty(5)
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais