10 newid i dîm y Scarlets sydd i wynebu Toulon

Rob Lloyd Newyddion

Mae canolwr y Llewod Jonathan Davies yn ailymuno’r XV fel un o’r 10 newid sydd i’r tim i wynebu RC Toulon ym Mharc y Scarlets ar nos Wener (17:30; BT Sport).

Davies fydd yn gwisgo’r crys rhif 13 wrth i’r Scarlets ddisgwyl i ennill ei ail gem yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Mae Johnny McNicholl yn ymuno â’r cefnwyr Leigh Halfpenny a Tom Rogers ar ol iddo wella o anaf i’w asennau. Bydd Rogers yn gwneud ei ymddangosiad Ewropeaidd cyntaf wrth iddo ddod mewn yn lle Steff Evans sy’n dioddef â byg stwmog.

Bydd y capten Steff Hughes wedi’i bartneri â Davies yng nghanol y cae, wrth i Kieran Hardy a Dan Jones ymuno fel haneri.

Yn y rheng flaen, mae Javan Sebastian yn cymryd lle Samson Lee fel prop pen tynn. Mae Lee a Ball yn derbyn asesiadau i’w pennau ar ol i’r ddau derbyn anafiadau yn ystod gem Caerfaddon penwythnos diwethaf.

Mae yna gweddnewidiad i’r ail reng wrth i Morgan Jones a Tevita Ratuva ymuno a’u gilydd am y tro cyntaf.

Ar ol i Jac Morgan bigo lan anaf i’w benglin yn erbyn Caerfaddon, ni fydd y rheng-olwr yn chwarae am wyth i 12 wythnos. Yn ei le, mae Josh Macleod yn derbyn crys rhif saith.

Bydd Ed Kennedy a Uzair Cassiem yn ei ymuno i greu’r rheng ol.

Mae Pieter Scholtz wedi ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf

Scarlets v RC Toulon 

15 Leigh Halfpenny; 14 Johnny McNicholl, 13 Jonathan Davies, 12 Steff Hughes (capt), 11 Tom Rogers; 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy; 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Morgan Jones, 5 Tevita Ratuva, 6 Ed Kennedy, 7 Josh Macleod, 8 Uzair Cassiem.

16 Marc Jones, 17 Kemsley Mathias, 18 Pieter Scholtz, 19 Iestyn Rees, 20 Dan Davis, 21 Gareth Davies, 22 Angus O’Brien, 23 Tyler Morgan

Ddim ar gael oherwydd anaf