Cadarnhawyd trefnwyr y twrnamaint bydd 24 tîm yng Nghwpan Pencampwyr Heineken tymor nesaf.
Cyhoeddwyd datganiad gan EPCR yn dweud: “Mae cynlluniau ar gyfer tymor 2021-22 yn cadarnhau bydd 24 clwb – gan gynnwys wyth cynrychiolydd o’r Gynghrair Gallagher, TOP 14 a’r Guinness PRO14 – yn cystadlu yng Nghwpan Pencampwyr Heineken. Bydd manylion pellach ynglŷn â’r fformatau a dyddiadau am dwrnamaint EPCR yn cael ei gyhoeddi mor gynted ag sy’n bosib.”
Gorffennodd y Scarlets yn drydydd yn ymgyrch 2020-21 y Guinness PRO14 yng nghynhadledd B fel y tîm gorau yn y gystadleuaeth.
Yn y cyfamser, mae EPCR wedi cyhoeddi mai Stadiwm Twickenham fydd yn cynnal rowndiau terfynol Cwpan Pencampwyr a’r Cwpan Her 2021 gyda hyd at 10,000 o gefnogwyr yn cael mynychu’r gemau ar Fai 21 & 22.
Marseille oedd fod i gynnal y rowndiau terfynol, ond oherwydd y cyfyngiadau i atal lledaenu Covid-19 nad oedd hyn yn bosib. Bydd y rowndiau terfynol yn dychwelyd i Lundain yn 2023 pan fyddant yn cael eu chwarae yn Stadiwm Totthenham Hotspur.