Aaron Shingler i wynebu’r Scarlets fel rhan o garfan y Barbariaid

Rob LloydNewyddion

Bydd Aaron Shingler yn dod mas o’i ymddeoliad i wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Barbariaid yn erbyn ei gyn dîm y Scarlets.

Fe benderfynodd y chwaraewr rheng ôl 36 oed i orffen ei yrfa yn dilyn 15 mlynedd llewyrchus i’r clwb gyda 226 o ymddangosiadau i’r Scarlets a 27 o gapiau i Gymru.

Wythnos diwethaf, cafodd Shingler gwahoddiad i ymuno â charfan y Barbariaid ar gyfer y gêm ar Fedi 16 ac mae ei baratoadau ar gyfer hynny yn cynnwys treiathalon yn Saundersfoot.

Bydd Aaron yn chwarae iddo’i glwb cartef Yr Hendy yng ngêm darbi yn erbyn Pontarddulais ar Ddydd Sadwrn cyn troi ei ffocws ar Gêm Goffa Phil Bennett yn lliwiau du a gwyn y Barbariaid.

“Ges i alwad ffôn wythnos diwethaf a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gynrychioli’r Barbariaid ond hefyd i chwarae yn erbyn y Scarlets,” dywedodd.

“Fe gymerais rhan yn Treiathalon Saundersfoot penwythnos diwethaf a byddai’n chwarae yng ngêm Hendy yn erbyn Bont ar Ddydd Sadwrn cyn chwarae yn erbyn y tîm dwi wedi bod yn rhan ohono am 15 mlynedd. Edrychaf ymlaen at weld pawb yna.”

Fe gychwynodd y Barbariaid eu taith Ewropeaidd gyda gêm buddugol yn erbyn Northampton Saint i orffen 48-12 yn Franklin’s Gardens. Bydd y garfan hynny a wnaeth curo’r Seintiau ifanc yn herio’r Scarlets yn Llanelli, gan gynnwys arwr y Wallabies James O’Connor yn ogystal â chwaraewyr arall rhyngwladol Awstralia a Japan.

Gêm nesaf y Barbariaid fydd yn erbyn Eirth Bryste yn Ashton Gate ar nos Iau.

Gallwch brynu eich tocynnau i gêm Scarlets v Barbariaid trwy ffonio Swyddfa Docynnau’r Scarlets ar 01554 292939 neu trwy fynd i’r wefan YMA.

Byddwn yn dangos gêm Cymru v Portiwgal ym Mhentref y Cefnogwyr ar ôl i gêm Scarlets orffen.