Aaron Shingler yn arwyddo cytundeb newydd i’r Scarlets

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets wrth eu bodd i gyhoeddi bod y chwaraewr rheng ôl ryngwladol Aaron Shingler wedi arwyddo cytundeb newydd.

Mae Shingler wedi dychwelyd i’r Scarlets yn dilyn problemau iechyd yn gynharach mis yma yn erbyn Munster gan dderbyn ei 191 ymddangosiad i’r Scarlets a’i 21ain cais yng nghrys Scarlets yn erbyn Connacht ar nos Lun.

Seren y gêm yn rownd derfynol y Guinness PRO12 yn Nulyn yn 2017, mae Aaron wedi ennill 27 o gapiau i’w wlad ac roedd yn aelod o’r garfan wnaeth cyrraedd y rownd gynderfynol yng Nghwpan y Byd yn Siapan.

Cafodd cyn-chwaraewr yr Hendi, a oedd yn chwarae criced i Glamorgan, ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn 2009 ar ôl disgleirio i Glwb Rygbi Llanelli yn y Gynghrair Gymreig.

Dywedodd y dyn 33 oed: “Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i gyrraedd y lefel o ffitrwydd sydd angen, ac mae fy nheulu a’r clwb wedi fy nghefnogi trwy’r cyfnod yma. Dw i am ddiolch tîm meddygol y Scarlets am bopeth maen nhw wedi gwneud i’m helpu.

“Mae wedi bod yn grêt i fod yn ôl ar y cae gyda’r bois yma dros y pythefnos diwethaf ac roedd y fuddugoliaeth neithiwr wedi dangos gwir gymeriad y garfan. Bod yn rhan o Gwpan Pencampwyr yw lle rydym eisiau bod.

“Roedd arwyddo cytundeb newydd yn benderfyniad rhwydd. Mae’r crys Scarlets yn golygu cymaint i mi gan fy mod wedi bod yma am dros 12 mlynedd. Mae gennym ni garfan gref, ac mae’r gystadleuaeth yn gyson gyda chyfuniad da o brofiad ac ieuenctid ac rydym yn uchelgeisiol megis grŵp. Rwy’n edrych ymlaen at beth sydd i ddod.”

Ychwanegodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Mae Aaron yn rhan holl bwysig o’r garfan, yn cael ei barchu gan bawb ac yn mynnu safon uchel ar ac oddi ar y cae.

“Mae ei record fel Scarlet yn dangos hynny. 12 mlynedd mae Aaron wedi bod yma ac yn agos at 200 o ymddangosiadau, mae’n deall hanes ac egwyddorion y clwb ac mae’n chwarae rôl holl bwysig ymysg y chwaraewyr ifanc sydd yma.

“Mae Aaron yn gystadleuol ac yn gymeriad cryf, gallwn weld hynny ar ôl iddo ddod yn ôl o anaf difrifol i’w ben-glin i allu chwarae yng Nghwpan y Byd ac eto’r tymor yma yn dilyn rhyw wyth mis anodd. Mae’n grêt ei bod wedi arwyddo cytundeb newydd wrth i ni edrych ymlaen at weithio gyda’r grŵp yma o chwaraewyr dros y blynyddoedd nesaf”