Aaron Shingler yn dychwelyd i’r Scarlets i wynebu Munster

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Aaron Shingler yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets ers dros flwyddyn ar ôl cael ei enwi yn y XV i ddechrau yn erbyn Munster yn rownd 15 o’r Guinness PRO14 yn Limerick ar nos Wener (20:00, S4C & Premier Sports).

Ymddangosodd y blaenasgellwr rhyngwladol i’r Scarlets diwethaf ym mis Chwefror 2020 yn Thomond Park. Ers haf diwethaf, mae wedi bod yn gwylio o’r ystlys gan ddelio â materion iechyd llidiol ac wedi gweithio tuag at ei ddychweliad ers hynny.

Mae Shingler, a fydd yn gwneud ei 190ain ymddangosiad i’r Scarlets, wedi’i enwi ymysg ochr sydd yn dangos tri newid ers y fuddugoliaeth cyffroes yn erbyn Caeredin.

Un newid sydd tu cefn i’r sgrym gyda Angus O’Brien yn dod i mewn yn lle Dan Jones fel maswr. Mae Jones yn colli’r gêm hon wrth iddo ddilyn protocolau asesiad pen.

Yn y rheng flaen, mae’r prop pen rhydd Phil Price wedi anafu ei ben-glin yn ystod ymarferion yn yr wythnos felly bydd Steff Thomas yn cael ei ddechreuad cyntaf yn y PRO14. Gwnaeth Thomas ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair mis diwethaf oddi’r fainc yn erbyn Benetton.

Wrth ei ochr bydd Marc Jones a’r prop pen tynn o Dde Affrica Pieter Scholtz, wrth i Morgan Jones a Sam Lousi parhau yn yr ail-reng.

Mae Shingler yn dod i mewn yn lle Uzair Cassiem fel blaenasgellwr ac yn ffurfio rheng ôl deinameg gyda’r cyfuniad o Sione Kalamafoni a Jac Morgan.

Mae’r canolwr Johnny Williams wedi’i rhyddhau o garfan Cymru a wedi’i enwi ymysg yr eilyddion. Ar y fainc mae Taylor Davies, Kemsley Mathias, Alex Jeffries, Tevita Ratuva, Cassiem, Will Homer a Paul Asquith.

Canolwr Steff Hughes fydd yn arwain yr ochr.

Bydd y Scarlets yn disgwyl i gadarnhau ei safle yng Nghynhadledd B gan ennill y gêm yma a sicrhau ei lle yng Nghwpan Pencampwyr y tymor nesaf.

Prif hyfforddwr Glenn Delaney

“Mae Munster yn barod yn y rownd derfynol a byddwn yn edrych ymlaen at hynny, ond rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i gadw adeiladu’r momentwm a chadw chwarae fel rydym wedi bod yn gwneud.

“I ni, mae’n bwysig i gymryd camau ymlaen, mae dal angen pwyntiau i gadarnhau Ewrop, nid yw hynny wedi newid ers rhai wythnosau yn ôl. Ein hamcan yw diogelu ein safle yng Nghwpan y Pencampwyr blwyddyn nesaf.”

Munster v Scarlets (Thomond Park 20:00, S4C & Premier Sports)

15 Johnny McNicholl; 14 Tom Prydie, 13 Tyler Morgan, 12 Steff Hughes (capt), 11 Steff Evans; 10 Angus O’Brien, 9 Dane Blacker; 1 Steffan Thomas, 2 Marc Jones, 3 Pieter Scholtz, 4 Morgan Jones, 5 Sam Lousi, 6 Aaron Shingler, 7 Jac Morgan, 8 Sione Kalamafoni.

Reps: 16 Taylor Davies, 17 Kemsley Mathias, 18 Alex Jeffries, 19 Tevita Ratuva, 20 Uzair Cassiem, 21 Will Homer, 22 Paul Asquith, 23 Johnny Williams

Ddim ar gael oherwydd anaf

Dan Jones (concussion), Phil Price (knee), Dan Davis (hamstring), Kieran Hardy (hamstring), Josh Macleod (Achilles), Blade Thomson (concussion), Lewis Rawlins (neck), Tomi Lewis (knee), Samson Lee (concussion), Tom Rogers (knee), Rob Evans (concussion), James Davies (concussion), Danny Drake (ankle), Sam Costelow (ankle), Ryan Conbeer (ankle), Rhys Patchell.

I ffwrdd gyda charfan Cymru

Ken Owens, Wyn Jones, Jake Ball, Ryan Elias, Gareth Davies, Jonathan Davies, Liam Williams, Leigh Halfpenny.