Academi’r Scarlets yn croesawu aelodau newydd

Kieran Lewis Newyddion

Gyda pharatoadau ar gyfer y tymor newydd dan ei sang mae Academi’r Scarlets wedi croesawu’r dôn gyntaf o aelodau newydd sy’n gobeithio creu llwybr llwyddiannus i’w hunain a chynrychioli’r tîm proffesiynol mewn blynyddoedd i ddod. 

Yr aelodau newydd cyntaf i’w croesawu i’r Academu yw’r mewnwr Luke Davies, yr asgellwr Callum Williams a’r wythwr Carwyn Tuipulotu a fydd yn gobeithio dilyn ôl traed chwaraewyr rhyngwladol presennol fel Gareth Davies, Steff Evans a Ryan Elias.

Gwnaeth Luke, o’r Tymbl, a Callum, o Aberteifi, argraff yn nhimau Dwyrain a Gorllewin y Scarlets dan 16. Mae Carwyn yn aelod o raglen Alltud URC ac fe gynrychiolodd Cymru dan 18 yn erbyn yr Alban yn gynharach eleni, yn 16 mlwydd oed.

Mae’r rhaglen dan 16 yn chwarae rôl bwysig yn lwybr datblygiad y rhanbarth gyda’r chwaraewyr yn cael eu cyflwyno i cynlluniau ymarfer proffesiynol, defnydd o ddadansoddi perfformiad a bod yn rhan o amgylchedd broffesiynol. 

Bwriad rhaglen Alltud URC yw nodi, monitor a datblygu rhwydwaith o fechgyn a merched ifanc cymwys sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru.

Fe fydd y tri aelod newydd yn parhau gyda’i haddysg tra’n ymarfer gydag Academi’r Scarlets ac yn derbyn hyfforddiant broffesiynol gan staff yr Academi a datblygu’r rhanbarth.

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Rygbi Cyffredinol y Scarlets; “Chwaraewyr fel Callum, Luke a Carwyn yw dyfodol y rhanbarth ac ry’n ni’n falch iawn eu croesawu i’r Academia r gyfer y tymor newydd.

“Mae gyda ni staff profiadol iawn yn rhedeg ein Academi a’r rhaglen graddau oed sy’n gwneud gwaith arbennig yn darganfod a meithrin talent lleol. Ry’n ni wedi gweld nifer o chwaraewyr o gymuned y Scarlets yn mynd ymlaen i gynrychioli’r rhanbarth ac yn ennill capiau rhyngwladol.

“Ry’n ni hefyd yn gweithio’n agos gyda’r URC a’r raglen Alltud i gydnabod chwaraewyr cymwys sydd tu allan i Gymru ar hyn o bryd.”

Aeth Kevin George, Rheolwr yr Academi, ymlaen i ddweud; “Ry’n ni erbyn hyn ryw bythefnos i fewn i’r gwaith o baratoi at y tymor newydd. Mae’n gallu bod yn gyfnod anodd gyda’r chwaraewyr yn ceisio datblygu i amserlenni hyfforddi a gweithio mewn lleoliad proffesiynol ond mae’r tri wedi gwneud yn ysgubol o dda.

“Mae Callum, Luke a Carwyn yn setlo mewn yn dda ac maent wedi’n plesio gyda’u hagwedd tuag at waith a’r her newydd sydd o’u blaenau.”