Alan John: 1946-2022

Rob Lloyd Newyddion

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth ein cyn chwaraewr Alan John yn 76 oed.

Chwaraeodd y blaenasgellwr yn agos at 150 o weithiau i Glwb Rygbi Llanelli rhwng 1966 a 1971, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Aberavon ar gae Talbot Athletic. Roedd ei berfformiadau cryf i Lanelli wedi arwain at ei gynnwys yng ngharfan cenedlaethol Cymru ar gyfer y daith i’r Ariannin yn 1969.

Chwaraeodd ei frodyr Barry a Clive i Lanelli hefyd, gyda Barry yn mynd ymlaen i fod yn ffigwr sylweddol yn y gêm i Gymru ac i’r Llewod.

Dechreuodd yn ei glwb gartrefol Cefneithin cyn iddo fynd ymlaen i’r Strade, ymunodd wedyn a’r Tymbl, fel chwaraewr yn wreiddiol ac wedyn fel hyfforddwr yn ystod amser llwyddiannus i’r clwb. Talwyd teyrngedau i Alan ar gyfryngau cymdeithasol wythnos hon.

Mae ein meddyliau gyda teulu Alan, ei ffrindiau a phawb yng nghlybiau rygbi Cefneithin a’r Tymbl yn ystod yr amser trist yma.

Alan is pictured with brothers Barry and Clive before a match against Cardiff at Stradey Park in 1971 (copyright: A Richards Photography).