Aled Brew yn cyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi

Rob Lloyd Newyddion

Mae Aled Brew wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi yn 34 oed.

Cyrhaeddodd yr asgellwr Parc y Scarlets ym mis Medi ar ôl cytuno ar gytundeb byrdymor.

Er iddo ond wneud un ymddangosiad yn erbyn ei gyn-dîm y Dreigiau mewn gêm gyfeillgar yn Rodney Parade, mae wedi bod yn aelod poblogaidd o’r garfan.

Yn cael ei adnabod fel ‘Brewy’, fe gyhoeddodd ei benderfyniad i ymddeol mewn post ar ei sianeli cymdeithasol, gan ddweud: “Ar ôl 17 mlynedd o chwarae, dw i wedi penderfynu gorffen fy ngyrfa. Dw i wedi bod yn ffodus iawn i dreulio hanner fy mywyd yn chwarae rygbi ac wrth edrych yn ôl bysen i ddim yn newid un munud ohono (er i fy mhengliniau anghytuno). Mae chwarae rygbi wedi rhoi sawl cyfle i mi, a llawer o atgofion a ffrindiau dw i am gadw.

“Ar hyd y blynyddoedd dw i wedi cael y fraint o chwarae i glybiau anhygoel gyda’r cefnogwyr gorau. Dw i mor ddiolchgar i’r rheiny sydd wedi fy nghefnogi.

“Dw i wedi rhoi 100% i’r gêm ac rwy’n sicr o weld eisiau chwarae.

“Er i’r bennod nesaf o fy mywyd fod yn aneglur, mae un peth yn sicr a hynny yw fy mod am ddechrau’r bennod nesaf gyda’r un fath o frwdfrydedd, ymrwymiad a gonestrwydd a wnes i drwy gydol fy ngyrfa rygbi.

“Diolch a Nadolig Llawen, Brewy.”

Wedi’i gapio naw o weithiau i Gymru, Aled ymysg y cyn lleied o chwaraewyr sydd wedi chwarae i bob rhanbarth Cymreig. Treuliodd amser yn Ffrainc hefyd gyda Biarritz, ac yn y Gynghrair Saesneg gyda Chaerfaddon lle cafodd llawer o gefnogaeth gan y cefnogwyr.