Anaf Davies i’w gadw mas o’r gêm am fisoedd

Menna Isaac Newyddion

Mae’r Prif Hyfforddwr Wayne Pivac wedi rhoi’r newyddion diweddaraf  ar anafiadau cyn wynebu Southern Kings ym Mharc y Scarlets dydd Sadwrn.

Dywedodd yn gynharach heddiw; “Mae James wedi anafu ei PCL, mae’n anhebygol newn ni ei weld ochr yma i’r Dolig. Gydag anafiadau i Will Boyde a Josh Macleod mae tri ar goll yn yr un safle. Roedd y tri yn datblygu’n dda ac i golli’r tri ar yr un adeg, mae’n anodd.

“Mae’n siomedig iawn i golli James, yn enwedig gyda’r ddau 7 arall mas hefyd, mae’n rhoi straen ar y tîm. Mae e’n chwaraewr da iawn, mae pawb yn ymwybodol iawn o hynny. Mae e’n rhan mawr o’r ffordd ry’n ni’n chwarae’r giem.

“Mae e wedi datblygu’n arweinydd yn y grwp. Roedd e’n datblygu’n dda if od yn arwienydd yn y rôl stafell ddosbarth hefyd. Fe fyddwn ni’n gweld eisiau fe ond does dim byd y gallwn ni ei wneud.”

Mae Pivac yn obeithiol y bydd Boyde a Macloed ar gael ar gyfer gêm ddarbi cyntaf y tymor, yn erbyn y Gweilch, penwythnos nesaf.

Wrth fynd ymlaen i son am yr anafiadau eraill dywedodd; “Mae Jon (Davies) yn edrych yn dda, fe fydd e’n cymryd rôl yn ymarfer wythnos yma ac ry’n ni’n obeithiol y bydd yn iawn i chwarae rhan dros y penwythnos.

“Dioddefodd Leigh (Halfpenny) anaf i’w bigwrn, byddwn i’n synnu petai ddim ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn y Gweilch.

“Fe fydd Clayton (Blommetjies) mwy na thebyg yn chwarae ryw rhan wythnos yma. Mae Steff (Evans) wedi bod yn gwneud gwaith ffitrwydd ar ôl dod nôl o anaf difrifol i’w anaf. Mae Rob (Evans) yn dal ar darged i fod yn iawn ar gyfer gêm y Gweilch hefyd.”

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Southern Kings i Barc y Scarlets dydd Sadwrn, cic gyntaf 18:30.

Tocynnau ar gael nawr, cliciwch yma