Bachwr y Cheetahs Marnus van der Merwe yn ymuno â’r Scarlets

Rob LloydNewyddion

Y bachwr o Toyota Cheetahs Marnus van der Merwe sydd wedi arwyddo cytundeb gyda’r Scarlets am dymor 2024-25.

Roedd y chwaraewr 27 oed yn rhan o wersyll aliniad 43-dyn Springboks Rassie Erasmus.

Yn chwaraewr gadarn, mae van der Merwe wedi serennu i’r Cheetahs yng Nghwpan Her Ewrop a’r Cwpan Currie ac fe ymunodd â’r Gweilch am gyfnod byr tuag at ddiwedd 2023.

Mi fydd Marnus yn ychwanegu at garfan Scarlets sydd yn parhau i adeiladu ar gyfer y tymhorau i ddod.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Nid oedd hi’n gyfrinach ein bod yn chwilio i gryfhau’r rheng flaen ac mae Marnus yn chwaraewr sydd wedi sefyll mas i ni gyda’i berfformiadau i’r Cheetahs.

“Yn gludiwr cryf, mae ei chwarae gosod yn arbennig wrth iddo fod yn bresenoldeb corfforol o amgylch y cae.

Bydd Marnus yn ychwanegu at y safon o flaenwyr sydd gyda ni yma yn barod yn yclwb ac edrychwn ymlaen at ei groesawu i Lanelli o flaen y tymor newydd.”

Datblygodd trwy system Academi y Cheetahs, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 yn 2018 ac roedd yn aelod o dîm fuddugol y Cwpan Currie yn 2023.

He said: He said: “Scarlets are a club with a proud history and tradition and a passionate fan base and following my conversations with Dwayne it is clear there is a determination and ambition to bring success with some exciting new signings coming into the squad.

“Dw i wedi cael profiad o chwarae yn hemisffer y gogledd gyda’r Cheetahs ac rwy’n edrych ymlaen at gychwyn her newydd gyda fy nghydweithwyr newydd ym Mharc y Scarlets yn y haf.”

Mae’r Scarlets wedi yn barod rhoi cytundeb newydd i’r chwaraewr rhyngwladol Tom Rogers, a fydd mwy o gyhoeddiadau arwyddo i ddod dros yr wythnosau nesaf.

FFEITHIAU

Marnus van der Merwe

Safle: Bachwr

Clwb: Toyota Cheetahs

Taldra: 1.88m (6tr 2mod)

Pwysau: 115kg