Ball yn barod i wynebu Lloegr ym Mharc y Scarlets

Rob LloydNewyddion

Mae Jake Ball yn barod i weithio allan gwerth tair mis o rhwystredigaeth pan yn chwarae yn erbyn Lloegr dydd Sadwrn.

Dyna pryd welodd ei ddwy ferch – Charlotte ac Amelia – a’i fab Jackson, diwethaf oherwydd cyfyngiadau Covid-19, a gan bod ei wraig yn disgwyl eu pedwerydd plentyn unhrywbryd.

Pan ailgychwynodd rygbi yn gynt yn yr haf, roedd angen i Ball, 29, gwneud penderfyniad enfawr os oedd am fod ar gael i chwarae mewn gemau fel y penwythnos yma ym Mharc y Scarlets, sydd yn fyw ar S4C.

“Dw i heb weld fy mhlant am rhyw dwy a hanner i dair mis ac mae hynny wedi bod yn anodd iawn” dywedodd Ball.

“Roedd yn benderfyniad roedd angen i mi wneud yn weddol gynnar ymysg Covid, er mwyn fy wraig a rygbi hefyd.

“Roeddwn yn ymwybodol o’r her fydd yn fy wynebu yn ceisio jyglo rygbi gyda’r holl bybls, ac gan fod fy wraig yn feichiog ac yn gofalu am dri o blant ar phen ei hun.

“Maent wedi gwario amser gyda teulu estynedig ac felly mae wedi bod yn anodd.

“Diolch byth am bethau fel Zoom, i gadw mewn cysylltiad ond yn amlwg nad ydy’r un peth a’u gweld nhw.”

Nid yna unig rhwystredigaeth Ball chwaith, gan iddo edrych i ddefnyddio’r holl emosiwn yna i geisio atal Lloegr rhag y fuddugoliaeth.

Credir fod ei wallt a’i farf yn edrych yn anniben iawn.

Mae’r rheolau llym wedi atal y chwaraewyr rhag ymweld a barbwr tra eu bod yn camp Cymru.

Er hyn, mae Undeb Rygbi Cymru wedi datrys y broblem i raddau, ond nad yw Ball gyda llawer o ffudd – eto.

“Mae’r opsiwn o’r “Covid cut” sydd yn cael ei wneud gan Prav (Mathema – prif feddyg Cymru), ond dw i heb cael fy nhemptio eto.

“Mae’r barf a’r gwallt yn dechrau edrych bach yn wyllt felly dw i’n edrych ymlaen at torri fy ngwallt.

“Dw i’n debyg iawn i Hagrid ar hyn o bryd, ond mae hynny’n oce.

“Mae pethau yn sicr wedi bod yn wahanol. Ond rydym wedi delio gyda’r cyfyngiadau yn dda iawn. Does neb wedi profi’n bositif hyd yn hyn ac mae hynny gan ddiolch i’r tîm meddygol a’r chwaraewyr.”

Bydd cefnogwyr Cymru yn obeithiol fydd ei wallt coch a’i farf yn amlwg iawn pan fydd Ball yn rhedeg allan i’r cae cyfarwydd iawn ym Mharc y Scarlets.

Dyma fydd 49fed cap Ball, a chafodd ei eni yn Lloegr, ac fydde wrth ei fodd i ddathlu’r gyfle o efallai derbyn ei 50fed gan faeddu’r hen gelyn.

Mae hynny yn rhywbeth mae Ball ond wedi llwyddo unwaith allan o bedwar cynnig gyda Chymru – yn ystod gêm paratoi i Gwpan y Byd llynedd yng Nghaerdydd.

“Fe ddes i’n agos yn 2017 pan sgoriwyd cais hwyr yng nghornel y cae ac fe gollais allan ar y fuddugoliaeth yn 2019.

“Mae gan Loegr ffurf da yn dod i mewn i’r gêm hon. Maent yn chwarae’n dda fel tîm ac mae’r ddau yna yn yr ail reng – Maro Itoje a Joe Launchbury – maent wedi bod yn rhan o’r dîm ers sbel ac rydym yn gwybod beth maen nhw’n gallu wneud. Chwaraewyr da iawn.

“Bydd hi’n sialens i fi ac i Alun Wyn, ond mae’n edrych yn gryf a fydd yn barod i wynebu’r her fel arfer.”

Roedd aberthau teulu Ball yn edrych yn ddibwrpas o ran capiau pan cafodd ei adael allan gan Wayne Pivac o flaen chwaraewr Wasps Will Rowlands.

Daeth ar ôl derbyn anaf pan yn chwarae yn erbyn Glasgow nôl ym mis Hydref.

“Ges i amser rhwystredig iawn. Ges i anaf i linyn y gar yn ystod gêm yn erbyn Glasgow.

“Chwaraeais am yr 80 munud, pan efallai dylsen i wedi dod bant. Ond roedd ganddom ni cerdyn coch felly roedd hi’n anodd.

“Achosodd hynny i mi golli ymarferion am wythnos a hanner, felly ro’n i’n gwybod fysen i’n colli gêm Ffrainc.

“Ges i fy siomi i ddim fod yn rhan o gêm yr Alban.

“Ond dw i wedi delio â hyn o’r blaen. Ac yn gwybod beth oedd angen i mi wneud, cadw fy mhen i lawr a gweithio’n galed fel dw i arfer gwneud.

“Bydd y gêm yma yn teimlo’n rhyfedd iawn heb gefnogwyr. Rydym mor gyfarwydd a gyrru trwy canol y ddinas ar y bws a gweld yr holl cefnogwyr ar hyd y strydoedd.

“Mae hynny’n creu buzz, ond tro hwn bydd rhaid i ni greu buzz ein hun ac yn enwedig ar y cae. Mae rhaid creu awyrgylch ein hun yn ystod y momentau yna.

“Dw i heb synnu bod Lloegr wedi dewis cael chwech blaenwr yr y fainc. Mae ganddyn nhw llawer o chwarewyr profiadol i ddewis.

Mae rhaid bod hi’n anodd i ond dewis un ochr iddyn nhw ar hyn o bryd, ond mae ganddyn nhw ochr cryf a fydd hi’n gêm caled.”

Dydd Sadwrn, 3.30yp – S4C

Clwb Rygbi Rhyngwladol – Cymru v Lloegr

Darllediad byw o gêm Gwpan Cenhedloedd yr Hydref 2020 rhwng Cymru a Lloegr. Y gic cyntaf am 4.00yp.