BBC a S4C i ddarlledu gemau’r URC yn y DU

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Pencampwriaeth Unedig Rygbi yn cael ei ddarlledu yn y DU ar BBC Wales, BBC Northern Ireland a S4C gan arddangos y gorau o’r gynghrair newydd sydd yn cychwyn ar Fedi 24.

Yng Nghymru, bydd y BBC a S4C yn darlledu 75 y cant o’r gemau byw gan gynnwys y rhanbarthau Cymraeg, tra fydd BBC Gogledd Iwerddon yn dangos llawer o gemau cartref Ulster yn fyw yn erbyn ei gwrthwynebwyr Gwyddelig a De Affrig. Mae’r cytundebau yma yn dilyn cyhoeddiad partneriaeth ‘Free-to-Air’ yn Iwerddon gyda TG4 a RTÉ. Bydd hyn yn cael eu gefnogi gan partneriaeth hirdymor gyda’r URC a Premier Sports, a fydd yn darparu sylwebaeth byw o bob 151 gêm ym mhob tiriogaeth am y tro cyntaf erioed.

Gyda’r pedwarawd De Affrig; Cell C Sharks, DHL Stormers, Emirates Lions a Vodacom Bulls yn barod i herio’r gorau sydd gan Iwerddon, yr Eidal, yr Alban a Chymru i gynnig, mae’r addewid o gynghrair penigamp wedi denu llawer o sylw i’r darlledwyr a chefnogwyr.

Dywedodd Martin Anayi, United Rugby Championship CEO,: “Our agreements with BBC Northern Ireland, BBC Wales and S4C is a progressive move to broaden access at a time when we have made a transformative change to our league. Alongside our deals with RTÉ and TG4 in the Republic of Ireland over 75 per cent of games in those territories will be available live on Free to Air.

“This will provide a major uplift in our audience reach and increase the access for fans of all ages to connect with top-level rugby week after week. Over the next four years the exposure these agreements provide will be a great boost for our clubs as we establish the United Rugby Championship as one of the world’s leading leagues.”

Bydd BBC Northern Ireland a BBC Wales yn derbyn croeso cynnes gan cefnogwyr wrth iddynt dychwelyd i’r grwp o ddarlledwyr tra fydd partneriaeth S4C yn ymestyn i 25 mlynedd erbyn diwedd y cytundeb newydd yma o ganlyniad i’w gefnogaeth anhygoel i’r gynghrair sydd yn dyddio nôl i 2001 pan ddarlledwyd y gynghrair Celtaidd am y tro cyntaf.

Bydd y cytundeb hon gyda BBC Wales a S4C yn parhau am bedair blynedd a fydd yn sicrhau mynediad i gefnogwyr Cymraeg i o leiaf dau gêm ‘Free-to-Air’ ym mhob rownd tra fydd gemau Diwrnod San Steffan, y flwyddyn newydd a’r Diwrnod Farn yn cael eu rhannu ymysg y darlledwyr pob tymor.