Beirne i chwarae ei hanner canfed gêm

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y blaenwr Tadhg Beirne yn chwarae ei hanner canfed gêm i’r Scarlets yn erbyn Munster yn Thomond Park prynhawn Sadwrn.

Mae’r ddau dîm yn yr ail safle yn yr adrannau. Fe fydd y Scarlets yn gobeithio sicrhau perfformiad a chanlyniad yn erbyn Munster i gadw’r pwysau ar arweinwyr Adran B Leinster, sydd ond tri phwynt ar y blaen gyda phedwar gêm yn weddill.

Yn dilyn pencampwriaeth y Chwe Gwlad fe fydd y prif hyfforddwr Wayne Pivac yn gallu cynnwys nifer o’i chwaraewyr rhyngwladol yn y tîm cychwynol Scott Williams yn arwain y tîm.

Daw Steff Evans, Rhys Patchell ac Aled Davies yn ôl i ymuno â Paul Asquith, Tom Varndell a Tom Williams.

Mae Ryan Elias, Samson Lee, Aaron Shingler a James Davies yn ôl gyda Dylan Evans, Beirne a Will Boyde yn cwblhau’r pac.

.

.

.

.

Tîm y Scarlets i wynebu Munster yn Thomond Park, Sadwrn 24ain Mawrth, cic gyntaf 17:30;

15 Tom Williams, 14 Tom Varndell, 13 Scott Williams ©, 12 Paul Asquith, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Aled Davies, 1 Dylan Evans, 2 Ryan Elias, 3 Samson Lee, 4 Tadhg Beirne, 5 David Bulbring, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 Will Boyde

Eilyddion: Emyr Phillips, Phil Price, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Josh Macleod, Jonathan Evans, Dan Jones, Steff Hughes