Mae’r ymddangosiad o grwp o chwaraewyr ifanc a thalentog wedi profi’n bositif yn ystod ymgyrch Guinness PRO14 y tymor hwn, meddai prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney.
Cwblhawyd y Scarlets eu ymgyrch gyda fuddugoliaeth anghredadwy yn erbyn Connacht ar nos Lun i sicrhau eu safle yng Nghwpan Pencampwyr Heineken y tymor nesaf.
Serennodd y gwibiwr Tom Rogers (22)Ga gyda chais unigol gwych, wrth i Steff Thomas (23), Kemsley Mathias (21) Dane Blacker (22) a Jac Morgan (21) hefyd gadael eu marc.
Gan ystyried bod Sam Costelow (20), Jac Price (21), Carwyn Tuipuloutu (19) a Dom Booth (20) hefyd wedi gwneud eu ymddangosiadau cyntaf yn y PRO14 tymor yma, mae’r dyfodol yn ddisglair yng Nghorllewin Cymru.
“Mae gan Tom llawer o dalent” gwenodd Delaney gan dillyn y fuddugoliaeth 41-26. “Dyma’r bois fydd yn gwneud y gwahaniaeth i’r clwb am y ddwy i bum mlynedd nesaf.
“Mae dyfodol y Scarlets wastod wedi bod yn nwylo’r bois ifanc ac mae hynny wedi bod yn glir y flwyddyn ‘ma gyda nifer o chwaraewyr i ffwrdd gyda’r tîm rhyngwladol, rydym wedi gorfod dibynnu arnyn nhw ac maen nhw wedi chwarae llawer o rygbi.
“Er enghraiff mae Morgan Jones wedi chwarae rhyw 650 munud o rygbi PRO14, dw i ddim yn credu doedd neb yn disgwyl hynny i ddigwydd ar ddechrau’r tymor.
“Mae ein sefyllfa ar hyn o bryd wedi golygu bod Morgan, Steff Thomas, Kemsley Mathias, Tom Rogers, Sam Costelow, Dane Blacker, we chwarae llawer o rygbi i ni ac mae hynny’n grêt. Maent wedi’u hyfforddi’n dda ac yn cael cyfleoedd i ddysgu. Mae byth yn berffaith, ond beth welsoch gan Tom ar nos Lun, dyna beth rydym yn anelu at.”
Ac roedd Rogers ei hun yn eithaf hamddenol am ei gais.
“Rhoddodd Steff bas da a wnes i mynd amdani”, dywedodd y ddyn ifanc o Gefneithin.
“Mae wedi bod yn grêt i mi, gallu dysgu wrth chwaraewyr enwog y garfan a ymarfer gyda nhw bob dydd; rwy’n dysgu llawer wrth bobl fel Sanjay (Liam Williams) a Pence (Leigh Halfpenny) ac mae’n grêt i jyst allu chwarae eto. Mae llawer o gystadleuaeth yma, ond rydym i gyd yn cefnogi ein gilydd hefyd.
“Roeddwn yn ymwybodol ar pa mor bwysig oedd y gêm yn erbyn Connacht ac bod rhaid i ni ennill, ac i ni mor falch ein bod wedi llwyddo gwneud hynny.”