Blade Thomson fydd y chwaraewr diweddaraf i gynrychioli’r Scarlets ar y llwyfan rhyngwladol pan fydd yn rhedeg allan dros yr Alban yn erbyn Ffrainc yn BT Murrayfield, mewn gêm baratoadol cyn Cwpan Rygbi’r Byd.
Roedd disgwyl i gyn blaenasgellwr y Hurricanes wneud ei ymddangosiad cyntaf yn fis Tachwedd diwethaf, ond dioddefodd cyfergyd i’w ben mewn gem Guinness PRO14 yng Nghaeredin a orfododd iddo fethu mwyafrif y tymor.
Mae Thomson bellach wedi gwella’n llwyr ac ar ôl creu argraff yng ngwersylloedd hyfforddi’r Alban, mae disgwyl iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf rhyngwladol ym mhrifddinas yr Alban.
Yn enedigol o Seland Newydd, mae Thomson yn gymwys i’r Alban trwy ei dad-cu, Robert.
Mae’r chwaraewr 28 oed wedi’i enwi fel wythwyr mewn tîm sy’n dangos newidiadau helaeth, wedi colled siomedig y penwythnos diwethaf i Les Bleus yn Nice.
Thomson fydd y 235ain chwaraewr i gynrychioli naill ai Clwb Rygbi Llanelli neu’r Scarlets ar lefel rhyngwladol, gan ddilyn Kieron Fonotia (Samoa) Tadhg Beirne (Iwerddon) a Sam Hidalgo-Clyne (yr Alban) ar gofrestr anrhydedd y Scarlets.
Mae cyn ffefryn y Scarlets John Barclay wedi’i enwi ar y fainc.
Tîm yr Alban i chwarae Ffrainc yn Stadiwm BT Murrayfield
Dydd Sadwrn 24 Awst, y gic gyntaf 1.10pm – yn fyw ar Premier Sport
15 Stuart Hogg (Exeter Chiefs) – 68 o gapiau
14 Tommy Seymour (Glasgow Warriors) – 50 o gapiau
13 Chris Harris (Gloucester) – 8 cap
12 Pete Horne (Glasgow Warriors) – 41 o gapiau
11 Sean Maitland (Saracens) – 40 o gapiau
10 Finn Russell (Racing 92) – 44 o gapiau
9 Greig Laidlaw (Clermont Auvergne, capt) – 71 o gapiau
1 Gordon Reid (Ayrshire Bulls) – 35 o gapiau
2 George Turner (Glasgow Warriors) – 6 cap
3 Willem Nel (Edinburgh) – 29 o gapiau
4 Scott Cummings (Glasgow Warriors) – 1 cap
5 Sam Skinner (Exeter Chiefs) – 5 cap
6 Ryan Wilson VICE CAPTAIN (Glasgow Warriors) – 43 o gapiau
7 Hamish Watson (Edinburgh) – 25 o gapiau
8 Blade Thomson (Scarlets) – heb ei gapio
EILYDDION:
16 Grant Stewart (Glasgow Warriors) – heb ei gapio
17 Allan Dell (London Irish) – 22 o gapiau
18 Simon Berghan (Edinburgh)– 20 cap
19 Grant Gilchrist (Edinburgh) – 34 cap
20 John Barclay (Edinburgh) – 72 cap
21 George Horne (Glasgow Warriors) – 5 cap
22 Rory Hutchinson (Northampton Saints) – 1 cap
23 Blair Kinghorn (Edinburgh) – 12 cap