BT yn lansio ymgyrch i frwydro casineb ar-lein

Rob Lloyd Newyddion

Heddiw mae BT yn lansio ymgyrch Draw The Line – y cam cyntaf o ymgyrch gwerth miliynau o bunoedd i sefyll yn erbyn casineb ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae ymchwil newydd gan YouGov wedi’i gomisynu gan BT yn datgelu y gwir raddfa cymdeithasol o gasineb ar-lein:

  • Mae mwy nag un mewn bob deg, dros pum miliwn o bobl, wedi derbyn negeseuon niweidiol dros y deuddeg mis diwethaf.
  • Mae hanner y poblogaeth wedi gweld negeseuon niweidiol dros y flwyddyn diwethaf.
  • Mae casineb ar-lein yn waeth i fenywod wrth i un ym mhob pum fenyw derbyn casineb ar-lein gan ddweud roedd hyn am eu delwedd.
  • Yr ifancach ydych, y mwy tebygol yw hi i chi profi casineb, mae 16% o bob 18-34 wedi profi casineb.
  • Mae 23% o bobl sydd yn huniaethu yn hoyw neu lesbiaidd wedi derbyn casineb ar-lein am eu rhywioldeb.
  • Dylse un yn bob saith o bobl sydd yn gweithio o fewn llygad y cyhoedd disgwyl derbyn casineb

Bydd BT Sport yn goleuo’r broblem ar draws y sianeli a chyflwyno polisi gwrth-fwlio ar-lein, gan ddileu, blocio neu reportio casineb ac atgasedd ar sianeli ei hun ac am fod yn wrthwynebydd weithredol.

Mae BT yn lansio ymgyrch “Draw The Line” i sefyll yn erbyn casineb ac atgsaedd ar gyfryngau cymdeithasol. Bwriad yr ymgyrch yw i gyfeirio’r broblem wrth codi ymwybyddiaeth o’r effaith o gasineb ar-lein a eirioli newid, wrth i ymchwil newydd sydd wedi’i gomisiynu gan BT a YouGov ddangos bod un ym mhob 10 wedi profi rhyw fath o gasineb ar-lein dros y flwyddyn diwethaf a 1.8 miliwn o bobl wedi profi ymddygiad bygythiol ar-lein dros y 12 mis diwethaf.

Bydd ymgyrch BT Draw The Line yn codi ymwybyddiaeth ar draws sianeli BT Sport am weddill y tymor a gweld y defnydd o’i polisi gwrth-fwlio ar-lein. Bydd BT yn ymateb, dileu, blocio neu reprtio casineb ar-lein i sicrhau bod eu sianeli yn rhywle diogel i’w cymunedau.

Dangosodd ymchwil pellach gan YouGov bod grwpiau lleiafrif yn fwy debygol i dderbyn negeseuon o gasineb, gyda chwarter o’r poblogaeth wedi gweld negeseuon hiliol ar-lein.

Mae’r ymgyrch wedi’i ffurfio gyda chefnogaeth Glitch sef elusen Prydeinig sy’n helpu’r achos o wneud y rhyngrwyd yn ddiogel. Mae hyfforddiant Glitch wedi helpu tîm BT i ddod yn weithredol ar-lein, a hefyd helpu creu ‘AI Abuse tracker tool’, sydd yn tracio’r lefel o gasineb ar Twitter. Mae hyn wedi dangos:

  • Yn ystod gemau proffil uchel pel-droed a chafodd eu tracio, rydym wedi gweld 3 ym mhob 10 tweet i fod yn ymosodol cyn i bêl gael ei gyffwrdd.
  • Yn ystod gêm 90 munud roedd cynyddiad o 350% mewn negeseuon ymosodol yn ystod pum munud pan wnaeth tîm methu sgori.
  • Ar draws pob gêm a gafodd eu tracio, gwelsom cynyddiad o 65% mewn casineb crefyddol a chynyddiad o 45% am gasineb rhywioldeb.
  •  

Dywedodd Marc Allera, CEO o BT’s Consumer Division, “For too long we have just accepted that hate online is the norm. Today we are launching Draw the Line – a campaign on BT Sport which marks the start of a BT focus on tackling social media abuse”

“We’re working on building a better understanding of what we don’t see, by using technology to build a more accurate picture of the scale of the problem. Over the next few months, you will see our own social teams proactively respond, delete, block or report hate speech and the abuse we see on our channels.

“And this summer, BT and EE will make big investments in activity to raise awareness of the issue and give people the digital skills to protect themselves and support others on social media.”

“There can be no place for online hate in the connected, digitally-inclusive UK we want to help build. None at all.”

Dywedodd Seyi Akiwowo, Sefydlydd a Chyfarwyddwr Gweithredol o Glitch, “We’re excited to work alongside BT to lead the way in both raising awareness of online abuse as well as implement new and sustainable measures to ensure their channels are a safe space for everyone.

“It’s alarming how commonplace online abuse has become, especially when looking at statistics regarding women and marginalised communities. That’s why for the last four years we’ve recommended ways everyone including corporations can and must play their part in keeping the online space safe.

“Our mental health, our wellbeing and the sports we love are being negatively impacted by online abuse. Online abuse has no place in our society and we all must take action. Until everyone, especially social media companies and the government commit to doing so this problem won’t go away.”

“We at Glitch develop and deliver various online safety workshops including how to be an online active bystander. In order to draw the line when it comes to abuse, we encourage you as digital citizens to spot, report and support.”

Gweithiodd BT ar y cyd gyda Glitch i gynllunio’r ymgyrch Draw The Line a’r ‘AI Abuse Tracker’ gan ddefnyddio’u arbenigiaeth i greu ardal diogel ar-lein ac eirioli dros newid systematig. Gweithiodd BT gyda YouGov i arolygu 4000 o bobl ar gasineb ar-lein.

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch ac am gymorth ar sut allwch helpu ewch i wefan bt.com/drawtheline. Spot. Report. Support.