Caerdydd yn ennill y frwydr D18

Rob Lloyd Newyddion, Newyddion yr Academi

Aeth tîm dan 18 Scarlets i Barc yr Arfau ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth gradd oedran y rhanbarthau ond wedi methu cipio’r fuddugoliaeth 21-12 yn y gêm gyntaf.

Er y canlyniad, fe wnaeth y ddau ochr rhoi perfformiad cryf ar y cae.

Yn dilyn 40 munud agos, y Gorllewin Gwyllt oedd ar y blaen o 12-11 gan ddiolch i geisiau gan Iolo Griffiths ac Ollie Close, trosiadau gan y maswr Steffan Jac Jones.

Gyda’r glaw yn drwm dros y brifddinas, Caerdydd oedd ar y blaen yn dilyn cais gan y bachwr Evan Wood a chic gosb gan Harri Wilde.

Bydd Scarlets yn chwarae ei gêm nesaf yn y flwyddyn newydd gan groesawu’r Dreigiau ar Ddydd Mercher, Ionawr 4.