Caerlyr yn gwneud y mwyaf o gamgymeriadau’r Scarlets

Menna Isaac Newyddion

Roedd y Scarlets yn gobeithio sicrhau canlyniad yn ail rownd Cwpan Pencampwyr Heineken, oddi cartref yn erbyn Caerlyr, i weld newid yn yr ymgyrch Ewropeaidd ar ôl colled siomedig i Racing 92 ym Mharc y Scarlets yn rownd agoriadol y gystadleuaeth.

Er gwaethaf llwyddo i daro’n ôl ar ôl siom agoriadol nid lwyddodd y Scarlets i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar Heol Welford gyda Caerlyr yn sicrhau buddugoliaeth o 45-27 a chadw’r Scarlets rhag casglu pwynt bonws.

Mae’r Scarlets mewn safle tebyg i dymor diwethaf ar ôl dwy rownd ac fe fydd yn rhaid iddynt wneud y daith y ffordd anodd er mwyn ail adrodd llwyddiant y tymor diwethaf a chyrraedd y rownd gyn derfynol.

Wrth ymateb i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; “Ni wnaethon ni ddechrau’n dda. Fe wnaethon ni adael iddyn nhw sgori deg pwynt yn y deng munud cyntaf. Fe wnaethon ni frwydro’n ôl yn dda gan gau’r gofod erbyn yr hanner.

“Mae’n rhaid i ni ddweud da iawn i Gaerlyr am y perfformiad, yn enwedig yn y cwarter olaf. Roedden nhw’n ddigon da i wneud y mwyaf o’n camgymeriadau.”

Aeth y Scarlets i’r ail rownd heb nifer o chwaraewyr profiadol oherwydd anafiadau ond roedd Pivac yn onest iawn yn ei asesiad gan ddweud; “Mae gan bob dîm anafiadau adeg yma’r tymor. Roedden ni’n teimlo bod y tîm oedd gyda ni yn ddigon da i ennill y gêm yna.”

Wrth edrych ymlaen i’r rowndiau nesaf ym mis Rhagfyr aeth ymlaen i ddweud; “Fe wnaethon ni adael pwynt bonws ar y cae sy’n siomedig. Mae’n rhaid i ni sichrau canyniadau cefn-wrth-gefn yn erbyn Ulster, mae mor hawdd a hynny.”

Fe fydd ffocws y Scarlets yn troi at y Guinness PRO14 gyda’r chwaraewyr rhyngwladol yn ymuno â Chymru ar gyfer y gemau rhyngwladol. Fe fydd y rhanbarth yn teithio i Dde Affrica dydd Llun i wynebu’r Southern Kings nos Wener cyn dychwelyd i wynebu Caerdin yn BT Murrayfield.