Canolwr Macs Page yn arwyddo cytundeb Academi

Rob Lloyd Newyddion, Newyddion yr Academi

Y canolwr Macs Page ydy’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb gydag Academi’r Scarlets.

Mae’r chwaraewr 16 oed o Sir Benfro wedi serennu i dîm Dwyrain Scarlets yn ystod ei gemau diweddar Dan 17 ac wedi sefyll mas fel un o sêr rygbi’r dyfodol.

Dechreuodd Macs ei daith rygbi gyda thîm iau Clwb Rygbi Abergwaun cyn symud i chwarae i Glwb Rygbi Cymrych yn ei dimau iau ac ieuenctid. Mae’n ddisgybl yn Ysgol y Preseli a dreuliodd tair blynedd gydag academi pêl-droed Abertawe.

Ar hyn o bryd, mae Macs yn astudio cwrs Gwasanaeth Trydan a Phlymio yng Ngholeg Sir Benfro ynghyd chwarae yng Nghynghrair Coleg ac Ysgolion Cenedlaethol URC.

Dywedodd hyfforddwr sgiliau’r Academi Paul Fisher “Roedd Macs wedi sefyll mas i ni, mae ganddo gyflymder a’r gallu i faeddu amddiffynwyr. Mae ganddo’r gallu i basio o’r ddau ochr ac yn gallu adnabod a rhagdybio gwagle ar y cae.

“Ar ochr arall y bel fe ddangosodd y gallu i daclo ynghyd gallu troi’r bel drosodd yn ardal y dacl. Edrychwn ymlaen at weld datblygiad Macs yn Academi’r Scarlets a gweld ei botensial wrth symud ymlaen i rygbi hŷn.”

Macs yn y llun gyda phrif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel a rheolwr y llwybr datblygu Kevin George ym Mharc y Scarlets