Capiau cyntaf i Kieran a Johnny yn erbyn Georgia

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Kieran Hardy a Johnny Williams yn derbyn eu capiau cyntaf ar y penwythnos ar ôl cael eu henwi yn yr ochr i wynebu Georgia ym Mharc y Scarlets. (GC 17:15 Yn Fyw ar S4C & Amazon Prime).

Bydd y mewnwr a’r canolwr yn derbyn rhifau 239 a 240 fel chwaraewyr rhyngwladol y Scarlets wrth gamu ar y llwyfan rhyngwladol.

Yn ymuno a’r ddau yn y XV bydd Liam Williams, Johnny McNicholl, Wyn Jones, Samson Lee a Jake Ball, gyda James Davies ar y fainc.

Gwelir 13 newid o dîm Wayne Pivac a chwaraewyd nos Wener ddiwetha’ yn erbyn Iwerddon.

Dewiswyd rheng flaen brofiadol gyda Jones, Elliot Dee a Lee, gydag ail reng gref ymysg Ball a Seb Davies.

James Botham sy’n ddi-gap fydd yn cychwyn fel blaenasgellwr wrth ochr y capten Justin Tipuric a Aaron Wainwright.

Bydd Hardy yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ym Mharc y Scarlets wrth ochr ei bartner Callum Sheedy a fydd yn dechrau fel maswr am y tro cyntaf.

Johnny Williams a Nick Tompkins fydd yng nghanol y cae, gyda Rees-Zammit, McNicholl – a chafodd ei alw mewn i’r garfan wythnos yma – a Liam Williams fel y tri cefnwyr.

Dywedodd Pivac “mae Dydd Sadwrn yn gyfle enfawr i’r chwaraewyr ac i ni fel carfan wrth i ni edrych ymlaen at y dyfodol a Chwpan Rygbi’r Byd 2023.”

“Mae Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn blatfform da i ni i allu rhoi cyfleoedd i chwaraewyr, ac iddyn nhw gael mwy o brofiad ar lwyfan rhyngwladol.

“Mae’n anrhydedd enfawr i’r chwaraewyr ddi-gap i gael eu dechreuad cyntaf ar y cae, ar ôl gweithio mor galed maen nhw’n haeddu’r cyfleoedd yma i gynrychioli eu gwlad.”

Sam Parry, Nicky Smith a Leon Brown fydd ar y fainc am y rheng flaen, gyda Cory Hill a James Davies yn cwblhau’r blaenwyr. Rhys Webb, Ioan Lloyd- sydd yn ddi-gap, a Jonah Holmes fydd ar y fainc i’r cefnwyr.

TIM CYMRU I CHWARAE GEORGIA (Dydd Sadwrn Tachwedd 21 GC17.15)

15. Liam Williams (Scarlets)

14. Johnny McNicholl (Scarlets)

13. Nick Tompkins (Dreigiau)

12. Johnny Williams (Scarlets)

11. Louis Rees-Zammit (Caerloyw)

10. Callum Sheedy (Eirth Bryste)

9. Kieran Hardy (Scarlets)

1. Wyn Jones (Scarlets)  

2. Elliot Dee (Dreigau)  

3. Samson Lee (Scarlets)  

4. Jake Ball (Scarlets) 

5. Seb Davies (Gleision Caerdydd)

6. James Botham (Gleision Caerdydd)

7. Justin Tipuric (Gweilch) (capt)

8. Aaron Wainwright (Dreigiau)

Reps: 16 Sam Parry (Gweilch), 17 Nicky Smith (Gweilch), 18 Leon Brown (Dreigiau),

19. Cory Hill (Gleision Caerdydd), 20. James Davies (Scarlets), 21. Rhys Webb (Gweilch), 22. Ioan Lloyd (Eirth Bryste), 23. Jonah Holmes (Dreigiau)