Mae’r Scarlets yn croesawu yn ôl pum chwaraewr rhyngwladol i’w tîm i ddechrau yn erbyn Gleision Caerdydd mewn gêm Guinness PRO14 yn Stadiwm Dinas Caerdydd Dydd Sadwrn (GC 7:35yh; S4C/Premier Sports).
Mae Leigh Halfpenny, Liam Williams, Jonathan Davies, Johnny Williams a Gareth Davies ymysg y 10 newid i’r tîm a ddechreuodd yn erbyn y Dreigiau ar Ddydd Calan
Halfpenny a Williams sydd i ymuno â Steff Evans ymysg y cefnwyr, wrth i Davies lenwi rôl y capten wrth Steff Hughes. Mae’r Davies yn bartner â Johnny Williams sydd wedi gwella o anaf a gafwyd yn ystod gem Cymru. Mae Gareth Davies a Dan Jones yn bartneriaid fel haneri.
Mae’r rheng flaen ar ei newydd wedd gyda Phil Price, bachwr Marc Jones a Pieter Scholtz, sydd yn gwneud ei ddechreuad cyntaf i’r Scarlets ers iddo ymuno’r clwb o Dde Affrica.
Tevita Ratuva fydd yn llenwi’r safle clo yn dilyn anaf Jake Ball, a fydd wrth ochr Sam Lousi. Bydd Josh Macleod yn ymuno’r pac hefyd wrth iddo lenwi lle Dan Davis.
Ymysg yr eilyddion, bydd Kemsley Mathias yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 oddi’r fainc, a fydd Josh Helps yn dychwelyd o’i waharddiad fel eilydd i’r ail reng. Kieran Hardy, fydd yn derbyn ei 50fed ymddangosiad i’r Scarlets oddi’r fainc, Sam Costelow a Paul Asquith sydd yn eilyddion i’r cefnwyr.
Mae’r Scarlets sydd ar hyn y bryd yn y trydydd safle yng Ngynhadledd B, yn anelu at ei drydedd fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn ei wrthwynebwyr Cymraeg, ond mae’r prif hyfforddwr Glenn Delaney yn paratoi ei chwaraewyr am gystadleuaeth ffyrnig yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd: “Rydym yn falch iawn o gael dwy fuddugoliaeth allan o ddau darbi, ac mae’r sialens y penwythnos hwn yn parhau. Byddwn yn chwarae ochr greadigol iawn sydd rhan amlaf yn chwarae o’n plaid. Bydd y Gleision yn dîm cryf iawn. Mae’r Gleision wedi wynebu sialens ei hun yr wythnos hon o ran ei dîm hyfforddi, ac mae hynny mynd i wthio nhw. Rydym yn ymwybodol o’r bygythiad ac rydym yn disgwyl iddyn nhw roi 100% yn ei pherfformiad.”
Scarlets v Gleision Caerdydd (Dydd Sadwrn, Ionawr 9 (19:35, S4C, Premier Sports)
15 Leigh Halfpenny; 14 Liam Williams, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Johnny Williams, 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies; 1 Phil Price, 2 Marc Jones, 3 Pieter Scholtz, 4 Tevita Ratuva, 5 Sam Lousi, 6 Blade Thomson, 7 Josh Macleod, 8 Sione Kalamafoni.
Reps: 16 Ryan Elias, 17 Kemsley Mathias, 18 Javan Sebastian, 19 Josh Helps, 20 Ed Kennedy, 21 Kieran Hardy, 22 Sam Costelow, 23 Paul Asquith.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Ken Owens (shoulder), Jake Ball (knee), Tyler Morgan (groin), Lewis Rawlins (neck), Tomi Lewis (knee), Alex Jeffries (elbow), Tom Phillips (hip), Dylan Evans (shoulder), Taylor Davies (shoulder), Wyn Jones (concussion), Samson Lee (concussion), Jac Morgan (knee), Jac Price (ankle), Tom Rogers (knee), Rob Evans, Rhys Patchell, James Davies, Aaron Shingler.