Chwe chwaraewr lleol yn arwyddo cytundebau

Gwenan Newyddion

Mae chwe chwaraewr a datblygwyd o fewn y rhanbarth wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r Scarlets.

Mae’r chwaraewr ail reng Jac Price, canolwyr Ioan Nicholas a Joe Roberts, bachwr Dom Booth, chwaraewr rheng ôl Iestyn Rees a’r prop Kemsley Mathias i gyd wedi cytuno ar gytundebau newydd.

Mae pump ohonynt wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf y tymor yma, wrth i Nicholas ymddangos yng ngêm Cwpan yr Enfys yn erbyn Gleision Caerdydd ar ôl dychwelyd o anaf.

Datblygodd y chwech trwy lwybr y Scarlets a chwaraeon nhw i glybiau lleol o fewn y rhanbarth.

Jac Price

Yn gynnyrch o Cwins Caerfyrddin ac Ysgol Bro Myrddin, gwnaeth y chwaraewyr 21 oed ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 yn erbyn Caeredin ym mis Tachwedd. Treuliodd amser gyda Nottingham RFC ar fenthyg yn ystod y tymor.

Ioan Nicholas

Y chwaraewr ifancaf i gynrychioli’r Scarlets pan oedd yn 17 oed, mae Ioan yn barod wedi ymddangos 47 o weithiau yng nghrys y Scarlets. Yn 23 oed, mae Ioan yn gallu chwarae fel canolwr neu ar yr asgell ac fe fagwyd ei grefft yng Nghlwb rygbi Pontyberem.

Joe Roberts

Gwnaeth y canolwr 21 oed ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 yn gynharach y mis yma yn ystod gêm yn erbyn y Gweilch ar ôl treulio amser ar fenthyg yn y Bencampwriaeth Saesneg gyda Ampthill.

Dom Booth

Wedi derbyn cap i Gymru d20, fe ddaeth y bachwr 20 oed oddi’r fainc i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 yn erbyn Caeredin. Chwaraeodd ei rygbi iau gyda Tenby United RFC.

Iestyn Rees

Roedd yn aelod o garfan Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd d20 yn yr Ariannin yn 2019, ac fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn ystod gêm y Dreigiau mis diwethaf gan sgori gais ar ei dro cyntaf yng nghrys y Scarlets.

Kemsley Mathias

Mae’r prop pen tynn 21 oed yn un arall sydd wedi gadael ei farc ymysg y garfan hŷn y tymor yma, gan wneud saith ymddangosiad. Chwaraeodd ei rygbi iau gyda Hwlffordd ac Arberth.

Dom Booth, Iestyn Rees, Ioan Nicholas, Jac Price, Joe Roberts a Kemsley Mathias yn chwarae i’w glybiau ieuenctid

Dywedodd rheolwr cyffredinol o rygbi Jon Daniels: “Mae gennym hanes balch o ddatblygu chwaraewyr lleol yn y Scarlets, ac mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i ennill capiau gyda Chymru a’r Llewod.

“Dechreuodd y chwech yma gyda’u clybiau lleol, ac maen nhw wedi datblygu trwy’r llwybr oedran gyda’r Scarlets, ac wedi cynrychioli Cymru d18 a d20 a nawr yn barod i adael eu marc yn ein carfan hŷn.

“Rydym yn pwysleisio’n aml ar ddatblygiad ein chwaraewyr ac rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd Jac, Ioan, Joe, Dom, Iestyn a Kemsley yn eu gyrfaoedd proffesiynol.”