CK’s tu ôl i’r Scarlets

Kieran Lewis Newyddion

Rydym yn falch o gadarnhau bod CK Foodstores wedi ymestyn eu partneriaeth gyda’r Scarlets cyn tymor 2018-19.

Mae CK Foodstores wedi bod yn gefnogwyr i’r Scarlets ers blynyddoedd lawer gyda logo’r cwmni yn ymddangos ar gefn y shorts cartref ac oddi cartref am y 3 blynedd diwethaf.

Gyda phedwar ar ddeg o siopau yn rhanbarth y Scarlets, sefydlwyd y cwmni, sydd bron i ddathlu 30 mlynedd o fasnachu, ym 1988 yn Llandeilo pan gafodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Christopher Kiley siop fach gan gynnig holl fuddion archfarchnad, gyda becws, cigydd a phwyslais ar gynnyrch ffres a geir yn lleol.

Agorwyd dwy siop arall yn y rhanbarth, ym Mhontyberem a Chastellnewydd Emlyn, cyn i’r cwmni ymestyn ymhellach i’r dwyrain i ardal Abertawe (Penclawdd).

Oherwydd galw mawr, ac i ateb gofynion cwsmeriaid, agorwyd warws a phrif swyddfa yn Llanelli yn 2000.

Dywedodd Nathan Brew, Pennaeth Masnachol y Scarlets; “Mae CKs wedi bod yn enw ar ein cit dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym wrth ein bodd eu gweld yn ymestyn eu partneriaeth gyda ni.

“Fel llawer o’n noddwyr, mae CKs yn gwmni sydd â’i wreiddiau’n gadarn yng Ngorllewin Cymru gyda’r gymuned wrth wraidd eu strategaethau. Edrychwn ymlaen at barhau i adeiladu ein perthynas â CKs dros y tymhorau sydd i ddod. “

Mae’r manwerthwr bwyd lleol, annibynnol yn falch iawn yn gweithio ochr yn ochr â chynhyrchwyr lleol er mwyn sicrhau bod y siopau’n darparu’r cynnyrch mwyaf ffres a mwyaf lleol ar gyfer y gymuned, ac mae llawer ohonynt hefyd yn rhan o deulu’r Scarlets.

Ychwanegodd Alun Littlejohns, Cyfarwyddwr Gweithredol CK Foodstores; “Rydym wedi nodi ers tro bod llawer o’n cwsmeriaid yn gefnogwyr mawr i’r Scarlets, ac ry’n ni wedi bod yn gyflym i ymgysylltu â hyrwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r Scarlets, yn y siop ac ar y we. Gan ein bod yn awyddus i ni dynnu sylw at ein cysylltiadau â’r tîm, rydym wedi cychwyn arolwg cyhoeddus i enwi 6 o’n lorïau ar ôl chwaraewyr gorffennol a phresennol y Scarlets!”