Cofrestrwch nawr i chwarae i Fenywod y Scarlets

Kieran Lewis Newyddion

Mae Rowland Phillips, Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, wedi gosod her i unrhyw un sydd eisiau chwarae i Gymru y tymor hwn i fod yn rhan o’r cynllun rhanbarthol newydd.

Fe fydd Cwpan Rygbi Menywod y Byd yn cymryd lle ymhen tair mlynedd ac mae Phillips yn credu mai anwr yw’r amser perffaith i ddechrau’r paratoadau ar gyfer y digwyddiad.

Mae Pencampwriaeth y Menywod yn newid ar gyfer y tymor newydd gyda’r gemau symud i ffenest gyfyng ar ddechrau’r tymor gyda chyfnod o hyfforddi dwys yn ystod yr haf er mwyn sicrhau bod y tîm rhyngwladol mor ffit a chystadleuol a phosib.

Os hoffech ymuno â charfan Menywod y Scarlets cliciwch YMA.

Fe fydd tîm hyfforddi menywod Cymru yn rhedeg rhaglen ymarfer saith wythnos o ganol Gorffennaf gana rwain i chwech wythnos o gemau.

.

Fe fydd Pencampwriaeth Rhanbarthol dan 18 yn cael ei chynnal yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda chyfnod o dair wythnos i baratoi. Fe fydd cyfnod cofrestru dan 18 yn agor yn yr hydref.