Curwyd RGC gan dîm Scarlets dan 18 cryf ym Mharc y Scarlets ddydd Sul

Kieran Lewis Newyddion yr Academi

Aeth tîm Scarlets dan 18 oed i’r cae ddydd Sul 2il o Chwefror i wynebu Rygbi Gogledd Cymru am 2:30 CG. Roedd yn rhaid i’r Scarlets ennill y gêm hon wrth iddyn nhw frwydro i gyrraedd hanner uchaf tabl y Bencampwriaeth.

Dechreuwyd yn gynnar yn yr hanner cyntaf gan RGC wrth i Rhys Hamilton groesi’r linell gais, a droswyd yn ddiweddarach gan Carwyn Jones. Doedd hi ddim yn hir cyn i’r Scarlets godi ar eu traed ac ymladd yn ôl gyda’r blaenasgellwr Caine Rees-Jones yn croesi’r llinell yn ogystal â’i gyd-fewnwr Archie Hughes gan ei gwneud hi’n 14-7 ar hanner amser gyda’r pwyntiau trosi ychwanegol o’r cist o Josh Phillips.

I mewn i’r ail hanner, ni wastraffodd bechgyn ifanc y Scarlets unrhyw amser wrth iddynt gynyddu’r pwyntiau ar y sgorfwrdd gyda’r trydydd cais yn dod ar ôl i’r asgellwr Eddie James groesi’r gwyngalch, roedd Phillips yn llydan gyda’r trosiad.

Fe wnaeth bachwr eilydd RGC groesi dros y llinell ar gyfer eu hail gais o’r ornest gyda Jones yn ychwanegu’r trosiad gan ei gwneud hi’n gêm i unrhyw un wrth i’r cloc dicio ymlaen. Ond sicrhaodd y Scarlets eu buddugoliaeth gartref gyda chais pwynt bonws olaf gan yr asgellwr Rhun Phillips a’r ddau bwynt ychwanegol gan Phillips gan ei gwneud yn sgôr derfynol o 26-14.

5 ’Rhys Hamilton – Cais 0-5

6 ’Carwyn Jones – Trosiad 0-7

20 ’Caine Rees Jones – Cais 5-7

21 ’Josh Phillips – Trosiad 7-7

24 ’Archie Hughes – Cais 12-7

25 ’Josh Phillips – Trosiad 14-7

38 ’Eddie James – Cais 19 – 7

60 ’Aaron Williams – Cais 19-12

61 ’Carwyn Jones – Trosiad 19-14

68 ’Rhun Phillips – Cais 24-14

69 ’Josh Phillips – Trosiad 24-14

Sgôr Terfynol 26-14

Mae’r tîm dan 18 oed yn croesawu’r Dreigiau i Barc y Scarlets yr wythnos nesaf, dydd Mercher 12fed o Chwefror, CG 19:15.

Tabl Pencampwriaeth RAG dan 18 oed (wedi’i ddiweddaru ar 3/02/2020);

TîmauPWDLPwyntiau
Gleision Caerdydd650124
Scarlets640218
Y Gweilch530214
Y Dreigiau520311
RGC60062