Cyn Scarlet Lleucu George a Sioned Harries wedi’u galw nôl i mewn i garfan Menywod Cymru o flaen Pencampwriaeth Chwe Gwlad Tiktok 2022.
Siwan Lillicrap bydd yn arwain carfan o 37 sydd yn cynnwys chwe chwaraewr di-gap – Lowri Norkett (Pontyclun), Liliana Podpadec a Jenni Scoble (y ddwy o Ogledd Llandaf), Emma Hennessy (Cheltenham Tigers), Emma Swords (Harlequins) ac Sisilia Tuipulotu (Gloucester-Hatpury) – enwir i gyd ar gyfer gêm gynhesu yn erbyn USA Falcons ym Mharc y Scarlets Dydd Sadwrn diwethaf.
Ennillodd George ei chap diwethaf yn erbyn Lloegr ym Mawrth 2020, a Harries heb chwarae ers Tachwedd 2019. Mae maswr Gloucester-Hartpury George wedi arwyddo cytundeb newydd y WRU , sydd yn codi’r nifer o chwaraewyr o dan gytundeb i 24.
Dywedodd prif hyfforddwr Ioan Cunningham: “Rydym yn falch iawn bod Lleucu wedi derbyn y gytundeb. Mae ei sgiliau o fudd enfawr i ni a gyda Chwpan y Byd rownd y gornel, mi fydd y oriau ychwanegol yn ei helpu i ddatblygiad ar bob lefel.”
Carfan Chwe Gwlad Tiktok Menywod Cymru
Blaenwyr: Siwan Lillicrap (capt, Bristol Bears), Alisha Butchers (Bristol Bears), Alex Callender (Worcester Warriors), Gwen Crabb (Glouecster-Hartpury), Cara Hope (Gloucester-Hartpury), Kat Evans (Saracens), Abbie Fleming (Exeter Chiefs), Cerys Hale (Gloucester-Hartpury), Sioned Harries (Worcester Warriors), Natalia John (Bristol Bears), Manon Johnes (Bristol Bears), Kelsey Jones (Gloucester-Hartpury), Bethan Lewis (Gloucester-Hartpury), Liliana Podpadec (Llandaff North), Carys Phillips (Worcester Warriors), Gwenllian Pyrs (Sale Sharks), Donna Rose (Saracens), Jenni Scoble (Llandaff North), Caryl Thomas (Worcester Warriors), Sisilia Tuipulotu (Gloucester-Hartpury)
Olwyr: Keira Bevan (Bristol Bears), Lleucu George (Gloucester-Hartpury), Emma Hennessy (Cheltenham Tigers), Hannah Jones (Gloucester-Hartpury), Jasmine Joyce (Bristol Bears), Courtney Keight (Bristol Bears), Kerin Lake (Gloucester-Hartpury), Caitlin Lewis (Exeter Chiefs), Ffion Lewis (Worcester Warriors), Lisa Neumann (Gloucester-Hartpury), Lowri Norkett (Pontyclun), Kayleigh Powell (Bristol Bears), Gemma Rowland (Wasps), Emma Swords (Harlequins), Elinor Snowsill (Bristol Bears), Niamh Terry (Exeter Chiefs), Robyn Wilkins (Gloucester-Hartpury)
Chwe Gwlad Tiktok Menywod Cymru
Sad 26 Mawrth 4.45pm Merched Iwerddon v Cymru RDS BBC 2NI
Sad 2 Ebrill 4.45pm Menywod Cymru v Yr Alban Parc yr Arfau BBC 2 and BBC 2 Wales
Sad 9 Ebrill 4.45pm Merched Lloegr v Cymru (lleoliad i’w gadarnhau) BBC 2 and BBC 2 Wales
Gwe 22 Ebrill 8yh Menywod Cymru v Ffrainc Parc yr Arfau S4C and BBC iplayer
Sad 30 Ebrill 12yp Menywod Cymru v Yr Eidal Parc yr Arfau S4C and BBC iplayer