Cymru’n enwi tîm d20 i wynebu Iwerddon

Rob Lloyd Newyddion

Mae prif hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham wedi enwi’r ochr fydd yn dechrau yn erbyn Iwerddon fory, ochr heb ei newid, yn yr ail rownd o Bencampwriaeth Chwe Gwlad d20 ym Mharc yr Arfau (CG 8yh).

Mae hynny’n golygu fydd Sam Costelow, Harri Williams a Carwyn Tuipulotu yn cychwyn unwaith eto, wrth i Eddie James cael ei enwi ymysg yr eilyddion.

Mae dau newid ar y fainc gyda Christ Tshiunza o Exeter Chiefs a Rhys Thomas o’r Gweilch fydd yn cymryd lle Tristan Davies a Evan Lloyd.

Bydd y dewis yma’n rhoi hwb i’r ochr a wnaeth frwydro am fuddugoliaeth yn y rownd agoriadol yn erbyn yr Eidal cyn i’r llwyddiant gael ei sichrau.

“Mae grêt i gychwyn gyda buddugoliaeth ac adeiliadu o hynny, a clod i’r grwp, roedd llawer o waith wedi cael’u rhoi i mewn,” dywedodd Cunningham. “Roedd gan yr Eidal llawer o feddiant a tiriogaeth yn gynnar, fe ddaeth y tîm yn agos iawn at ein llinell cais ac roedd ein amddiffyn yn dda ac welsom y bois yn gwella trwy gydol y gêm.

“Rydym yn gobeithio i adeiladu o’r gêm fel grwp gan ein bod heb chwarae llawer o gemau megis grwp felly mae’n gyfle da i’r bois sy’n haeddu ail gyfle i ddangos eu potensial.”

Gyda mwyafrif o’r garfan heb chwarae rygbi am bron 15 mis, mae Cunningham yn hapus gyda perfformiad y tîm ifanc.

“Mae llawer yw wneud eto o ran datblygiaf y grwp ond rydym yn dod yn agosach sydd yn grêt,” esboniodd Cunningham. “Gobeithio bydd y grwp yn parhau i ddatblygu a gwella ar ôl bob gêm a dyna un o’r rhesymau pam rydym yn parhau gyda’r un grwp, er mwyn cryfhau ac adeiladu ar y cysylltiad rhwng y grwp.”

Credir Cunningham bydd Iwerddon yn brawf anodd i’w chwaraewyr yn dilyn gêm heriol yn erbyn yr Eidal, ond yn hyderus bydd ei dîm gyda llawer o hunan-hyder wrth fynd i mewn i’r gêm.

“Fe ddaeth y bois at eu gilydd a dangos llawer o gryfder yn erbyn yr Eidal, yn enwedig yn gynnar yn y gêm pan roedd yr Eidal gyda llawer o’r meddiant.

“Wedyn yn amlwg fe ddaeth yr ail hanner yn rhwyddach iddyn nhw pan newidodd y tywydd, ffeindiodd y bois ffordd i roi pwysau arnyn nhw a credais roedd rheolaeth gêm da gan Sam Costelow ac ein arweinwyr.

“Mae mynd i fod yn gêm wahanol y tro yma gyda’r heriau cicio a’r blaenwyr cryf felly mae rhaid i ni gamu i fyny at y sialens wythnos yma.”

Cymru d20 v Iwerddon d20, Parc yr Arfau, Dydd Gwener Mehefin 25, 8yh

15 Jacob Beetham (Cardiff Rugby); 14 Dan John (Exeter Chiefs), 13 Ioan Evans (Pontypridd), 12 Joe Hawkins (Ospreys), 11 Carrick McDonough (Dragons); 10 Sam Costelow (Scarlets), 9 Harri Williams (Scarlets); 1 Garyn Phillips (Ospreys), 2 Efan Daniel (Cardiff Rugby), 3 Nathan Evans (Cardiff Rugby), 4 Joe Peard (Dragons), 5 Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs), 6 Alex Mann (Cardiff Rugby – Capt), 7 Harri Deaves (Ospreys) 8 Carwyn Tuipulotu (Scarlets).
Reserves: 16 Oliver Burrows (Exeter Chiefs), 17 Theo Bevacqua (Cardiff Rugby), 18 Lewys Jones (Nevers), 19 James Fender (Ospreys), 20 Chris Tshiunza (Exeter Chiefs), 21 Ethan Lloyd (Cardiff Rugby), 22 Will Reed (Dragons), 23 Tom Florence (Ospreys). 24 Morgan Richards (Dragons/Pontypridd), 25 Eddie James (Scarlets). 26 Rhys Thomas (Ospreys)