Mae Jonathan Davies wedi arwyddo cytundeb newydd i’r Scarlets sy’n parhau ei ymrwymiad i’r clwb.
Canolwr i Gymru a’r Llewod, mae Jonathan yn un o’r chwaraewyr adnabyddus yn hanes balch y clwb.
Ymddangosodd 180 o weithiau yng nghrys Scarlets, gan sgori 51 o geisiau, ac roedd yn chwaraewr hanfodol yn y fuddugoliaeth PRO12 yn 2017.
Wedi’i adnabos fel ‘Foxy’, cymerodd yr awennau fel capten i’r Scarlets tymor yma ac ymunodd â grwp elitaidd o chwaraewyr sydd wedi cyrraedd 100 o ymddangosiadau rhyngwladol.
Dywedodd: “Mae yna amgylchedd cryf yma ar hyn o bryd, mae’r gystadleuaeth am safleoedd yn dda, mae’r safon yn ystod ymarferion yna ac mae’r grwp eisiau cystadlu am deitlau eto. Mae’n lle dda i fod.
“Mae gwisgo crys y Scarlets yn golygu llawer i mi, tyfais i fyny yn y rhanbarth, cefnogais y clwb fel plentyn a fe ddatblygais trwy’r Academi felly mae’n anrhydedd mawr i fod yn gapten ar y clwb.
“Mae’r tymor yma wedi bod yn un heriol am sawl rheswm, gennymm dwy gêm mawr ar ôl ac yn dal i frwydro i orffen ar frig y tabl Cymreig a fod yn gymwys i Gwpan Pencampwyr, rhywbeth sydd yn bwysig i bawb yma.
“Gennym grwp da o fois ifanc sydd gyda’r gallu i roi’r Scarlets mewn safle da wrth symud ymlaen ac mae’r gystadleuaeth yna yn gwthio pawb i godi’r safon ar draws y garfan. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o hynny dros y flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Jon yn chwaraewr penigamp, sydd wedi chwarae ar y lefel uchaf o’r gêm. Dangosodd cymaint mae’r Scarlets yn golygu iddo trwy ei arweiniaeth fel capten ar hyd y flwyddyn.
“Teimlaf ei fod wedi codi ei safon eto ers ddychwelyd o’r Chwe Gwlad ac yn chwarae ei rygbi orau.
“Mae’n chwaraewr sy’n gosod y safon ac yn mynnu safonnau uchel trwy’r camp ac yn esiampl da i’r chwaraewyr ifanc sydd gennym yma. Mae’r newyddion ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd yn wych wrth i ni ddisgwyl i ddatblygu fel grwp.”
Noddwyr Jonathan yw Sterling Constructinon ac mae ef yn ymuno â’r grwp o chwaraewyr sydd wedi ymestyn eu cytundebau gan ddilyn Sam Lousi, Scott Williams, Rhys Patchell, Johnny McNicholl, Sam Costelow, Ryan Conbeer, Gareth Davies a Steff Thomas.