Dai Flanagan ar gêm ddiwethaf y tymor

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Dai Flanagan â’r wasg yn dilyn gêm Cwpan yr Enfys yn erbyn Caeredin ar ddydd Sul, gan sôn am gyfleoedd colledig, perfformiad cofiadwy arall gan Tom Rogers a dychweliad cefnogwyr.

Dai, beth yw dy ymateb di i’r canlyniad yna?

DF: “Rydym i gyd wedi siomi, fe wnaethom lawer o waith da ac wedyn yn y pum munud olaf yn dangos ein gwendidau, a cholli rheolaeth i adael fynd o’r fuddugoliaeth a rhoi bant 14 o bwyntiau o fewn pum munud.

“Roedd llawer o agweddau da ac mae hynny’n dangos bod y bois ifanc yn dysgu, ond rhai adegau o gam-disgyblaeth tuag at y diwedd wnaeth ein gadael i lawr. Mae’n angen i ni ddechrau’n newydd ac edrych ymlaen at yr haf i ddechrau eto. Mae angen i ni fod yn gyson a gwthio ein safonau gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn dîm o safon am y tymor nesaf.”

Beth oedd hi fel i gael y cefnogwyr nôl?

DF: “Dyna pam rydym yn chwarae, a pam mae pobl yn gwisgo’r crys bob wythnos, er mwyn perfformio o flaen teuluoedd a ffrindiau. Mae rhywbeth pwysicach na’ rygbi yma heddiw, gallwch weld y teuluoedd a’r plant yn mwynhau.

Mae ein cefnogwyr yn cefnogi’r tîm trwy’r da a’r drwg. Rwy’n gwybod eu bod nhw wedi gweld eisiau’r lle yma ac mae’r chwaraewyr wedi colli nhw hefyd.”

Perfformiad mawr unwaith eto gan Tom Rogers, beth oedd dy farn ar ei ymdrech?

DF: “Bob tro mae’r bel yn ei ddwylo mae’r gwrthwynebwyr yn ofni am ei gyflymdra. Mae Tom ond yn mynd i wella ac y mwyaf rydym yn ei weld y gorau bydd. Mae angen iddo i barhau i weithio’n galed oherwydd mae yna lawer o gystadleuaeth i’r tri ôl ac mae angen iddo i gadw gwthio’r bois sydd yma.

“Gallwch weld y cyffro yn ei wyneb wrth iddo dderbyn y bel ac mae’r cefnogwyr yn cyffroi hefyd, mae ganddo’r X-factor, dwi ddim yn siŵr faint o bobl oedd yma ond yn sicr roedd pawb ar eu traed pan roedd Tom yn gafael yn y bel.”