Mae prif hyfforddwr y Scarlets Dai Flanagan wedi siarad gyda’r wasg o flaen gêm Cwpan yr Enfys yn erbyn Ulster ar ddydd Sadwrn. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.
Sut ydych chi’n paratoi ar gyfer her ddydd Sadwrn yn erbyn Ulster?
DF: “Fe ddechreuon ni’n araf yn erbyn Caerdydd ac roedd potensial i ni gael ein chwythu bant yn yr hanner cyntaf os dwi’n onest. Fe ddechreuon yn araf yn erbyn Ulster yn gynharach yn y tymor felly mae rhaid i ni sicrhau ein bod wedi paratoi. Mae Ulster wedi gwella eu gêm yn ddiweddar gan chwarae’n ddwfn, gyda thîm ymosod da gyda llawer o bresenoldeb gan gario’r bêl ac ein her fydd i atal hynny.”
Rwyt ti’n mynd yn erbyn Dwayne Peel, sut deimlad fydd hynny?
DF: “Dwi wedi siarad â Dwayne cwpl o weithiau ers iddo gael y swydd, ond nid am y gêm yma achos mae ganddo swydd i wneud gydag Ulster ac mae gen i swydd i wneud yma. Rwy’n siŵr fe wnewn ni ddal i fyny ar ôl y gêm.”
A fydd unrhyw Llewod yn rhan o’r gêm ar y penwythnos?
DF: “Mae’n debygol ni fydd Wyn neu Liam yn cael unrhyw amser chwarae cyn iddyn nhw adael gyda’r Llewod yn anffodus, mae’r ddau yn cymryd rhan mewn rhaglen rehab. Maen nhw wedi gweithio’n galed i fod yn rhan ond nad yw hi’n bosib. Nad yw’r gemau wedi gweithio yn eu ffordd nhw o ran amseri. Mae’r ddau wedi gweithio’n galed iawn gan helpu paratoi ond jyst wedi colli’r dyddiad. Bydd Gareth Davies yn rhan o’r 23, mae Kieran yn ok ond mae Dane Blacker wedi pigo lan anaf i’w droed felly fydd yn gwisgo boot am rhai wythnosau, rydym yn aros i weld os fydd ar gael ar gyfer gêm Caeredin.”
Beth bydd hi fel i chwarae o flaen 500 o gefnogwyr?
DF: “Mae’r bois wedi gweithio mor galed ar i gyrraedd y pwynt yma yn eu gyrfaoedd i allu chwarae mewn gemau mawr o flaen cefnogwyr, gynted gyd gorau gyd iddyn nhw ddychwelyd. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r rhanbarth yn edrych ymlaen at weld cefnogwyr nôl, hoffwn orffen y tymor gan roi perfformiad mewn.”
Shwd aeth diwrnod olaf Jake Ball?
DF: “Cafodd Jake sawl araith dros yr wythnosau diwethaf! Cawsom ein ‘hwyl-fawr’ yn ystod y noson wobrwyo pan gafodd y bois crysau ac fe siaradodd pryd hynny, oedd rhaid iddo wneud un arall mewn cyfarfod ac un arall ar y cae heddi’. Mae wedi bod yn ddiwrnod emosiynol iddo. Teulu yw’r peth pwysicaf yn ei fywyd, a dyna beth ddysle o hyd dod yn gyntaf ac mae’n bwysig bod Jake yn dychwelyd i’w deulu nawr. Mae ei gymeriad wedi’i sefydlu ar foesau a gwerthoedd da ac mae Jake yn chwaraewr tîm. Beth bynnag mae’n gwneud mae o hyd yn rhoi 100%. Chwaraeodd yn erbyn y Gweilch gan wybod mai dyna oedd ei gêm ddiwethaf a rhoddodd berfformiad anhygoel, ond pan ddaeth i mewn ar y dydd Llun i weld fi, dwedodd Jake ‘beth allai wneud i dy helpu paratoi’r tîm’ ac mae wedi bod yn rhagorol ers hynny. Mae ein chwaraewyr ail-reng wedi cystadlu yn erbyn Jake dros y pythefnos diwethaf ac mae wedi parhau i roi popeth i mewn i’w waith. Byse hi’n rhwydd iawn iddo ddweud ‘dyna ddigon’, ond mae heb. Dyna gymeriad y dyn.”