Dai Flanagan yn ymateb i’r golled yn erbyn y Gleision

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Dai Flanagan i’r wasg ar ôl y golled 29-28 yn erbyn Gleision Caerdydd yng Nghwpan yr Enfys. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.

Dai, sut wyt ti’n edrych yn ôl ar yr wythnos?

DF: “I fod yn onest mae wedi bod yn rhyfedd. Dwi wedi bod yn gyhoeddus am y gefnogaeth dwi wedi cael gan y chwaraewyr ac welsoch yr ymdrech heddi, mae’r bois am frwydro. Roedd hi’n siomedig i weld ein bod wedi gadael pethau i’r munud olaf.”

Cafodd Dane Blacker effaith mawr yn ystod yr ail hanner. Beth wyt ti’n i feddwl o’i berfformiad?

DF: “Mae Dane wedi bod yn anhygoel ac mae’n bleser i hyfforddi. Bob tro mae Dane yn cael cyfle mae’n ychwanegu at y gêm ac rwy’n hapus iawn gyda’i berfformiad heddiw. Mae’n dod mewn bob dydd i wella ac mae’r amgylchedd yma yn gystadleuol iawn. Mae gennym un mewnwr yn mynd ar daith y Llewod, un sydd wedi bod gyda carfan Cymru ac un arall sy’n gwthio’r ddau ohonyn nhw. Mae Will Homer hefyd wedi chwarae’n ardderchog i ni tymor yma.”

Beth aeth o’i le yn yr hanner cyntaf?

DF: “Roeddwn yn ffodus i allu ddod yn ôl os dwi’n onest, roedd y Gleision yn rhagorol. Dyna lle rydym am ffeindio’r ateb, i ni methu gadael hi’n rhy hir i ddod nôl mewn i’r gêm. Fe lwyddon i roi pwysau ar y Gleision i gicio nôl atom. Mae gennym un o’r timau cicio gorau yn y gynghrair sydd yn agor cyfleoedd i chwaraewyr megis Johnny McNicholl a Tom Rogers i greu a Dane Blacker i ddilyn, dyna’r fath o gêm sydd yn grêt i wylio, ond mae rhaid i ni ennill yr hawl i wneud hynny gan ymosod yn gynt.”

Beth yw’r cynllun am weddill y gystadleuaeth?

DF: “Mae’n bwysig ein bod yn parhau i rhoi cyfleoedd i bobl fel Ioan Nicholas, Joe Roberts a Josh Helps achos fyddyn nhw’n bwysig i ni blwyddyn nesaf. Mae angen cryfhau carfannau Cymru a dyna ein cyfrifoldeb fel hyfforddwyr i gyflwyno chwaraewyr sydd yn barod, ac rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o’r chwaraewyr hynny ac hefyd mae gen i’r cyfrifoldeb o greu cydbwysedd yn y carfan i sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd. Bydd rhai o’r Llewod hefyd yn cael amser i chwarae.”