Gyda 11 o geisiau yn ystod ei 15 ymddangosiad diwethaf i’r Scarlets, mae Dane yn profi ei werth yn ystod y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Ac wrth i’r Scarlets paratoi am y gêm agoriadol yn Ne Affrica y penwythnos yma, mae’r chwaraewr 23 oed yn ysu am gyfle arall i arddangos ei dalent.
Gyda’r mewnwyr rhyngwladol Gareth Davies a Kieran Hardy yn rhan o’r garfan yn dilyn yr ymgyrch yng Nghyfres yr Hydref, mae Blacker yn ymwybodol bod angen iddo wneud bob cyfle i gyfri.
Ond ni fyddwch yn gweld y mewnwr o Ynysybwl yn cwato o’r gystadleuaeth.
Ymhell ohoni.
“Mae’n wych, mae’r gystadleuaeth yn fy ngwthio i fel chwaraewr,” dywedodd o flaen gêm rownd chwech ar Ddydd Sadwrn yn erbyn Cell C Sharks yn Jonsson Kings Park.
“Mae Gar a Kieran yn ddau mewnwr rhyngwladol o safon uchel iawn ac nad oes cyfleoedd yn dod yn aml iawn, ond pan maen nhw mae rhaid eu cymryd.
“I mi, mae’n bwysig i drial cael fy nghynnwys yn y garfan ar ddiwrnod gêm cymaint a dwi gallu. Dwi’n ymwybodol o faint o her yw hi i gael y cyfle ac os nad wyt ti’n cymryd y cyfle gall misoedd fynd heibio cyn i un arall ddod rownd.
“Mae’r mewnwyr i gyd yn gwthio eu gilydd ac i mi mae dysgu wrth chwarewyr fel Gar, Kieran ac yn amlwg Dwayne, gyda’i holl brofiad o chwarae ar y lefel uchaf, a cymryd y pethau hynny i mewn i ystyriaeth wrth chwarae yn wych.
“Dw i dal yn ifanc, dal i ddysgu, y mwya’ allai bigo i fyny wrth y bois y mwya’ wnai wella fel chwaraewr.”
Roedd dau cais Blacker yn erbyn Benetton cyn yr egwyl i’r gemau rhyngwladol yn hanfodol i’r Scarlets i sicrhau y fuddugoliaeth pwynt bonws.
Nawr mae’r sylw’n troi at yr her o chwarae 8,500 o filtiroedd i ffwrdd a chwarae mewn tymheredd gwahanol iawn wrth i’r timau De Affrig paratoi i chwarae eu gemau cartref cyntaf yn y twrnamaint.
“Rydym wedi paratoi’n dda am y daith dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweithio ar ein gêm achos mae angen i ni fod ar ein gorau wrth wynebu’r sialens yma. Mae’n gyfnod gyffroes,” ychwanegodd Dane.
“Rydym yn gwybod eu potensial nhw fel gwrthwynebwyr, mae’r bois yn fawr ac byddyn nhw’n chwilio i ennill y tir. Mae gennym nhw llawer o falchder wrth chwarae adref ac fyddyn nhw’n dîm cryf ar tomen eu hunain; mae’n hanfodol i ni gyrraedd eu lefel nhw yn gorfforol.”
Mae Blacker, sydd yn barnu mai’r Springbok Faf de Klerk fel ei wrthwynebwr caletaf erioed, yn gyfarwydd iawn â’r De Affrig ar ôl bod yn rhan o daith Cymru D18 (carfan a oedd yn cynnwys ei gyd-chwaraewyr Scarlets Corey Baldwin a Ryan Conbeer), ac yn rhan o dîm saith bob ochr Cymru ar daith Cyfres y Byd.
Roedd ei ffurf ar ddiwedd y tymor diwethaf wedi’i arwain at drafodaethau i’w gael ei gynnwys yn ngharfan haf Cymru.
Os all Dane barhau i serennu yng nghrys Scarlets, pwy a ŵyr beth sydd i ddod yn y dyfodol?
“Mae pob chwaraewr ifanc eisiau chwarae i’w gwlad,” ychwanegodd. “Yn sicr mae hynny yn darged i mi. Dw i am ganolbwyntio a ceisio chwarae ar fy ngore’ i’r Scarlets.”