Y mewnwr Dane Blackers enillodd enillodd pleidlais chwaraewr y mis Olew Dros Gymru am fis Ebrill.
Yn dilyn sawl wythnos siomedig gyda’r colled Cwpan Pencampwyr yn erbyn Sale a’i ddilyn gan y golled yn rownd agoriadol Cwpan yr Enfys yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade.
Ond wnaeth Blacker dal sylw, yn enwedig yng Nghasnewydd, lle sgoriwyd cais unigol arbennig – ei saithfed o’r ymgyrch – ac yn egnïol trwy gydol y gêm.
Enillodd mwy nag 70% o’r bleidlais ar-lein i gipio’r wobr oddi wrth y bachwr Ryan Elias a’r chwaraewr ail-reng Jake Ball.
Mae Dane yn dilyn Sione Kalamafoni (Ionawr), Jac Morgan (Chwefror) a Steff Hughes (Mawrth) sydd yn barod wedi ennill y wobr yn 2021.