Dangosodd gem Caerfaddon pa mor agos rydyn ni fel grŵp

Rob LloydNewyddion

Yn ôl Gareth Davies, roedd yr ymdrech a rhoddwyd gan bob aelod o’r tîm yn funudau olaf y gêm ar ddydd Sadwrn yn dangos cymeriad ac agosrwydd yr holl garfan.

Cafodd Caerfaddon ei drechu ar domen ei hunain gan y Scarlets ar y penwythnos, mewn gêm ddramatig a chafodd ei ennill gan y Scarlets 23-19.

Ei sialens nesa’ fydd nos Wener, wrth iddynt wynebu Toulon ym Mharc y Scarlets. (17:30 BT Sport).

“Roedd hi’n ddiwrnod sbesial ac yn fuddugoliaeth sbesial,” dywedodd y mewnwr a chafodd ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets ar ddydd Sadwrn.

“Roedd yr ymdrech gan y bois yn y pum munud olaf i gadw Caerfaddon i ffwrdd o’r llinell gais yn anhygoel, ac yn dangos pa mor agos rydyn ni fel grŵp. Mae’r fuddugoliaeth yma yn rhoi’r garfan mewn hwyliau da i wynebu Toulon ar nos Wener.

“Roedd sôn cyn y gêm am ffeindio cyfleoedd a chymryd siawns; mae Caerfaddon yn dîm ardderchog ac yn drefnus yn ei chwarae felly yn amlwg nid oedd nifer o gamgymeriadau mynd i gael ei wneud ar eu rhan nhw. Gwnaeth Steff gwaith arbennig er mwyn i mi allu sgori’r cais yna yn gynnar yn y gêm, ac roedd yr ail gais yn yr ail hanner yn bwysig iawn i ni hefyd.

“Fe ddangosom ein brwdfrydedd megis grŵp. Roedd hi’n wythnos anodd yn dilyn yr holl hunan ynysu, nid oedd llawer o amser i baratoi ond rydym yn hapus iawn gyda’r canlyniad.”

“Un o fy hoff atgofion yn y crys Scarlets yw maeddu Caerfaddon dwy flynedd nol, ac roeddwn yn gobeithio am gêm debyg y tro yma. Er iddi fod mwy dramatig y tro hwn, rydym yn fwy na hapus gyda’r canlyniad ac yn edrych ymlaen at chwarae Toulon gartre.

“Mae’n grêt i gael y ddol nol yn ein cynefin gyda’r crys Scarlets arni hefyd!”