Danny Drake i ymuno â Chaerloyw ar gyfnod fenthyg

Rob Lloyd Newyddion

Mae Danny Drake, blaenwr y Scarlets, wedi ymuno â Chaerloyw ar gytundeb benthyciad tymor byr tan ddiwedd y tymor.

Mae’r blaenwr, sy’n gallu chwarae yn yr ail reng a’r rheng ôl, wedi bod yn hyfforddi gyda chlwb y gorllewin, a ddychwelodd i weithredu yn y gynghrair y penwythnos diwethaf.

Esboniodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney: “Mae gan Gaerloyw gyfnod prysur o rygbi yn cynnig gemau canol wythnos a phenwythnos felly maen nhw wedi ceisio ychwanegu at ddyfnder eu carfan. Mae hefyd yn gyfle gwych i Danny gael rhywfaint o rygbi o dan ei wregys.”