Bydd Scarlets yn cychwyn eu tymor 2022-23 ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig gyda darbi yn erbyn y Gweilch.
Bydd y ddau gelyn yn cwrdd ar benwythnos Medi 16-18.
Mae’r URC wedi datgelu 18 rownd o gemau ar gyfer yr ymgyrch newydd gyda’r dyddiadau a amseri pendant i’w gadarnhau dros yr wythnos nesaf yn dilyn trafodaethau gyda’n partneriaid darlledu.
Bydd pump gêm allan o’r saith agoriadol yn cael eu chwarae ym Mharc y Scarlets gyda thîm Ulster yn teithio i Lanelli yn yr ail rownd cyn i dîm Dwayne Peel fynd i’r Eidal ar gyfer y drydydd rownd yn erbyn Benetton.
Darbi Cymraeg arall ar y pedwerydd rownd wrth i’r Scarlets cynnal Rygbi Caerdydd; bydd Zebre yn cyrraedd Gorllewin Cymru am rownd pump; a taith i Galway am rownd chwech yn erbyn Connacht, wedyn y bloc agoriadol o gemau yn cwblhau gyda gêm gartref yn erbyn Leinster.
Yn dilyn yr egwyl o’r gemau rhyngwladol ym mis Tachwedd, bydd Scarlets yn hedfan i Dde Affrica i wynebu’r pencampwyr presennol y DHL Stormers yn Cape Town a wedyn yn Ellis Park yn Johannesburg yn erbyn Emirates Lions.
Dau rownd o gemau Ewrop i ddilyn yn Rhagfyr, cyn y gêm darbi Nadolig yn erbyn y Gweilch yn Abertawe. Mae yna gêm fawr gartref arall yn y flwyddyn newydd gyda Dai Flanagan yn dychwelyd i Lanelli gyda’r Dreigiau am rownd 11. I gwblhau’r tymor darbi, bydd y Scarlets yn teithio i’r brifddinas yr wythnos ar ôl.
Bydd y tymor arferol yn dod i ben ar Ebrill 23, 2023 gyda taith i Rodney Parade i herio’r Dreigiau.
Unwaith eto, bydd fformat y URC yn gweld pob 16 tîm yn cael eu sgori ar draws un tabl a’r wyth ar frig y tabl bydd yn ennill lle yn y rownd yr wyth olad, wedyn y rowndiau cynderfynol i osod y llwybr ar gyfer y rownd derfynol.
Gemau URC Scarlets
R1 – Penwythnos Medi 16-18
Scarlets v Gweilch
R2 – Penwythnos Medi 23-25
Scarlets v Ulster
R3 – Penwythnos Medi 30-Hyd 2
Benetton v Scarlets
R4 – Penwythnos Hyd 7-9
Scarlets v Rygbi Caerdydd
R5 – Penwythnos Hyd 14-16
Scarlets v Zebre Parma
R6 – Penwythnos Hyd 21-23
Connacht v Scarlets
R7 – Penwythnos Hyd 28-30
Scarlets v Leinster
R8 – Penwythnos Tach 25-27
DHL Stormers v Scarlets
R9 – Penwythnos Rhag 2-4
Emirates Lions v Scarlets
R10 – Penwythnos Rhag 23/24/26
Gweilch v Scarlets
R11 – Penwythnos Rhag 30-Ion 1
Scarlets v Dreigiau
R12 – Penwythnos Ion 6-8
Rygbi Caerdydd v Scarlets
R13 – Penwythnos Ion 27-29
Scarlets v Vodacom Bulls
R14 – Penwythnos Chwefror 17-19
Scarlets v Rygbi Caeredin
R15 – Penwythnos Mawrth 3-5
Munster v Scarlets
R16 – Penwythnos Mawrth 24-26
Scarlets v Cell C Sharks
R17 – Penwythnos Ebrill 14-16
Glasgow Warriors v Scarlets
R18 – Penwythnos Ebrill 21-23
Dreigiau v Scarlets