Datganiad Swyddogol gan y Scarlets

vindico Newyddion

“Rydyn ni wedi cael gwybod y byddai prif hyfforddwr y Crysau Duon, Ian Foster, sydd newydd ei benodi, yn hoffi i brif hyfforddwr Scarlets, Brad Mooar, ymuno â’i dîm hyfforddi yn Seland Newydd ar ddiwedd tymor 2019-20.

“Megis dechrau mae’r trafodaethau rhwng y Scarlets a Rygbi Seland Newydd ac ni allwn wneud sylwadau pellach nes i’r trafodaethau hynny ddod i ben.

“Yn y cyfamser, mae Brad, y grŵp hyfforddi a grŵp chwarae yn canolbwyntio’n gadarn ar gêm hollbwysig Cwpan Her Ewropeaidd ddydd Sadwrn yn erbyn Bayonne, ac yna gemau darbi mawr dros dymor yr ŵyl.”