Dau Scarlet wedi’u henwi yng ngharfan Chwe Gwlad D20 Cymru

Gwenan Newyddion

Mae prif hyfforddwr Cymru Byron Hayward wedi dewis ei garfan am Gyfres Chwe Gwlad yr haf sydd yn cael ei chynnal yn Nhreviso a Verona rhwng Mehefin 24 a Gorffennaf 12.

Mae’r carfan yn cynnwys 17 o flaenwyr a 13 o olwyr ac mae pum chwaraewr di-gap wedi’u henwi gan gynnwys y chwaraewr ail-reng/rheng ôl Caleb Salmon.

Hefyd wedi’i enwi yn y carfan 30 dyn mae’r maswr Josh Phillips a enillodd ei gap cyntaf i Gymru D20 nôl ym mis Mawrth fel eilydd yn erbyn yr Eidal.

Bydd Cymru yn gwynebu’r Alban, Georgia a’r Eidal yn Pool B cyn chwarae gêm i benderfynu ei safle yn y gystadleuaeth, ond dywedodd Hayward bod y carfan yn ffocysu ar y gêm gyntaf yn erbyn yr Alban yn Stadio Di Monigo ar Ddydd Sadwrn Mehefin 25.

“Os ydych yn cychwyn gyda buddugoliaeth da wedyn mae’r momentwm yn cario,” esboniodd Hayward. “Mi fydd hi’n bwysig i ni i ennill y gêm gyntaf a dyna beth yw’r ffocws ar hyn o bryd. Mae gennym dau gêm ar ôl hynny, ond nad ydyn yn meddwl amdanyn nhw tan gêm yr Alban.

“Bydd yr Alban yn chwarae rygbi apelgar felly bydd hi’n her yn amddiffynol sydd yn ardal mawr mae rhaid i ni weithio arno ar ôl y Chwe Gwlad lle cafodd hynny ei uchw-oleuo.

“Felly os allwn trefnu ein hun fe allwn creu effaith gyda’r bel. Gan ddweud hynny, mae gennym llawer o barch tuag at yr Alban wrth i ni fod 10-0 i lawr yn yr ail hanner yn erbyn nhw yn y Chwe Gwlad cyn i ni orffen gyda’r buddugoliaeth.”

Carfan D20 Cymru am Gyfres Chwe Gwlad yr Haf

Forwards:
Rhys Barratt (Cardiff Rugby)
Cameron Jones (Ospreys)
Efan Daniel (Cardiff Rugby)
Oli Burrow (Exeter Chiefs)
Morgan Veness (Ealing Trailfinders)
Adam Williams Dragons)
Nathan Evans (Cardiff Rugby)
Ellis Fackrell (Ospreys)
Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs)
Christ Tshiunza (Exeter Chiefs)
Caleb Salmon (Scarlets)
Ryan Woodman (Dragons)
Ben Williams (Aberavon)
Ethan Fackrell (Cardiff Rugby)
Morgan Morse (Ospreys)
Benji Williams (Ospreys)
Mackenzie Martin (Cardiff Rugby)

Backs:
Morgan Lloyd (Dragons)
Che Hope (Dragons)
Rhodri Lewis (Ospreys)
Dan Edwards (Ospreys)
Josh Phillips (Scarlets)
Joe Hawkins (Ospreys – Capt)
Mason Grady (Cardiff Rugby)
Bryn Bradley (Harlequins)
Joe Westwood (Dragons)
Oli Andrews (Dragons)
Harri Houston (Ospreys)
Cameron Winnett (Cardiff Rugby)
Iestyn Hopkins (Ospreys)

Six Nations U20 Summer Series

Sat 25 June – Scotland v Wales – Stadio Di Monigo 5pm
Thu 30 June – Wales v Georgia – Stadio Di Monigo – 5pm
Wed 6 July – Wales v Italy – Stadio Di Monigo – 8pm
Tue 12 July Play-off – opposition/KO TBC