Davies; “Ry’n ni’n ffynnu ar y gemau mawr,”

vindico Newyddion

Fe sgoriodd y mewnwr Gareth Davies dwy gais yr un yn rownd tri a phedwar Cwpan Pencampwyr Ewrop, yn erbyn Benetton Rugby, i gynorthwyo’r Scarlets i gadw’r ymgyrch yn fyw.

Yn dilyn y fuddugoliaeth dros Gaerfaddon nos Wener mae’r Scarlets yn mynd i mewn i’r rownd olaf angen buddugoliaeth i sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf.

Gêm nos Sadwrn bydd gêm fwyaf y rhanbarth yn Ewrop gyda dros 12,500 o docynnau wedi eu gwerthu’n barod.

Wrth ymateb i fuddugoliaeth nos Wener dywedodd Davies; “Roedd yn berfformiad arbennig ac yn deimlad arbennig yn yr ystafell newid ar ôl y gêm. Hwn oedd un o’r buddugoliaeth gorau i fi brofi yng nghrys y Scarlets. Roedden ni’n gwybod bod angen i ni berfformio fel yna i’w curo.”

Wrth edrych ymlaen i’r gêm yn erbyn Toulon dydd Sadwrn dywedodd; “Maent yn un o’r clybiau gorau. Ry’n ni’n disgwyl her fawr. Fe wnaethon ni fethu a chyrraedd y nod yne u herbyn yn y rownd gyntaf. Gobeithio y gallwn ni fynd cam ymhellach dydd Sadwrn a sicrhau buddugoliaeth hanesyddol arall.

“Mae hyder yn beth mawr i ni ac fe fydd yn rhaid i ni fynd a hwnnw i mewn i’r gêm dydd Sadwrn.

“Ry’n ni’n gwybod bod y gallu gyda ni. Ry’n ni’n ffynnu ar y gemau mawr yma. Mae’n her mawr i ni ond fe fydd yn her y newn ni fwynhau.”

Fel un sydd wedi ei fagu yn y rhanbarth mae gan Davies atgofion melys o gemau Ewropeaidd; “Rwy’n cofio mynd i Barc y Strade fel plentyn a mynd i gemau Ewropeaidd mawr. Fe wnes i wylio buddugoliaethau mawr pan oeddwn i’n arfer mynd i bob gêm. Mae’n braf cael bod yn rhan o hwn nawr.

“Roedden nhw’n bosweithiau da. Roeddwn i’n caru mynd yno. Mae bod yn rhan o’r gemau yma fan hyn nawr yn rhywbeth sy’n arbennig iawn i fi.”

Mae nifer bach o docynnau weddill o eticketing.co.uk/scarletsrugby

I wylio cyfweliad Gareth Davies cliciwch yma

Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac nos Sadwrn!